Kayley Baner
09.10.25

Darganfod Fy Llais drwy Dynolwaith

Profiad arbennig i Kayley Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dynolwaith

Kayley Roberts yn ymarferion Dynolwaith

Pan ddaeth Dynolwaith i’r fei fel stori am ddyn traws, roedd Frân Wen yn benderfynol o sicrhau bod lleisiau a safbwyntiau traws yn rhan greiddiol o’r broses greadigol o’r cychwyn cyntaf. Roedd nifer o aelodau o’r tîm creadigol a’r tîm cynhyrchu yn dod â phrofiad byw o fod yn draws, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei siapio gyda gofal a dilysrwydd.

Mae gen i radd mewn theatr, ffilm ac ysgrifennu creadigol, ond dydw i heb gael llawer o gyfleoedd i roi’r sgiliau hynny ar waith. Dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi gweithio’n llawrydd, yn ysgrifennu ac yn cyfarwyddo prosiectau bach gan gynnwys monolog ar gyfer Mas ar y Maes yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, ac opera fer fel rhan o brosiect Tuag Opera. Daeth Frân Wen a Theatr y Sherman ar draws fy ngwaith a cawsom sgwrs am y rôl Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar Dynolwaith - cyfle sydd wedi golygu llawer iawn i fi.

Cyfle Prin a Phwysig

Mae cyfleoedd fel hyn yn hynod bwysig i gyfarwyddwyr ac artistiaid ar ddechrau eu gyrfa. Roedd hwn yn gyfle i ddatblygu fy sgiliau yn ymarferol, ond hefyd i weithio gyda chwmni sy’n rhoi cynrychiolaeth a chynhwysiant wrth wraidd pob proses - nid fel slogan, ond mewn ffordd ymarferol a gwirioneddol. Roedd gweithio gyda chwmni mor barchus â Frân Wen, a dysgu gan dîm mor brofiadol a meddylgar, yn brofiad amhrisiadwy.

Fy Rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Roedd yn amrywio o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, a dyna un o’r pethau roeddwn yn ei fwynhau fwyaf! Yn ystod Dynolwaith cefais gyfle i:

  • Ddysgu blocio a llwyfannu

  • Gweithio ar olygu a datblygu’r sgript

  • Cefnogi actorion i ddatblygu cymeriad, llais a bwriad

  • Cymryd rhan mewn trafodaethau am ddylunio set

  • Archwilio cerddoriaeth a sain fel elfennau storïol

  • Cydweithio ar drafodaethau goleuo

Cefais hefyd gipolwg ar rolau nad oeddwn wedi gweithio’n agos gyda nhw o’r blaen, fel y dramatwrg a’r Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (DSM).

Dysgu drwy Gydweithio

Drwy weithio ochr yn ochr gyda Leo, Gethin, a gweddill y tîm, dwi wedi dysgu fod creu cynhyrchiad yn broses agos o gydweithio, a’i bod yn hanfodol i bawb rannu’r un gweledigaeth er mwyn sicrhau fod y cynhyrchiad yn dod at ei gilydd yn llwyddiannus.

Roedd pob barn yn cael ei chlywed, ac roedd syniadau pawb yn cael eu hystyried gyda pharch. Hyd yn oed pan nad oedd lle i bob syniad yn y fersiwn derfynol, roedd pawb yn rhan o’r daith greadigol. Dysgais sut i gyfleu cyfarwyddiadau’n glir ac yn adeiladol, sut i gynnal awyrgylch agored a pharchus mewn ystafell ymarfer, a sut i gynllunio’n effeithiol dan bwysau amser.

Pŵer Stori

Mae bod yn rhan o Dynolwaith wedi atgoffa fi o bwysigrwydd theatr. Tydi o ddim ‘just’ yn stori, neu ‘just’ yn adloniant. Mae’n ffordd o greu cysylltiad rhwng pobl.

Gall stori bersonol, gonest a chofiadwy - gyda hiwmor a dynoliaeth - ddylanwadu ar gynulleidfaoedd a chreu dealltwriaeth newydd. I rai, roedd y ddrama’n wahoddiad i gydymdeimlo; i eraill, roedd yn adlewyrchu eu bywydau eu hunain ar y llwyfan am y tro cyntaf.

Yn sicr, mae wedi gwneud i fi feddwl o ddifri am y mathau o straeon a chymeriadau dwi’n eu creu a bod fy llais inna hefyd yr un mor bwysig. Yn y byd sydd ohoni mae’r straeon yma yn angenrheidiol i’w adrodd fwy nag erioed.

Beth Nesaf?

Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar fy ail nofel, ond yn y cefndir mae syniad newydd yn dechrau ffrwtian, am stori fyswn i’n hoffi ei rannu a’i roi ar y llwyfan un diwrnod… boed hynny fel awdur, fel cyfarwyddwr cynorthwyol, neu hyd yn oed fel cyfarwyddwr!

Mae’r profiad yn sicr wedi fy ysbrydoli, a dwi’n siwr mai nid dyma y tro olaf i fi gydweithio gyd Frân Wen, a’r tîm hyfryd yma.

Diolch i bawb oedd yn rhan o’r daith. Am y croeso, y cydweithio, a phrofiad mor arbennig.

Darllenwch mwy am
Dynolwaith
Mwy