Mae #CIFW yn creu theatr sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.
Maen nhw’n cyfarfod yn wythnosol i:
- Greu, cynhyrchu a rhannu theatr ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol ysbrydoledig.
- Datblygu eu celf unigryw trwy weithdai rhannu sgiliau a dosbarthiadau meistr gyda gwneuthurwyr theatr blaenllaw.
- Ymweld â theatrau arloesol ar draws y DU, i brofi’r theatr fwyaf perthnasol a beiddgar.
- Chwarae rhan ganolog ym mhenderfyniadau, rhaglennu a llywodraethu Frân Wen.
Mae holl waith y Cwmni Ifanc yn bwydo mewn i'n rhaglen artistig.
ENGHREIFFTIAU O'U GWAITH
CREU THEATR
FAUST + GRETA
Wedi'i ddyfeisio a'i berfformio gan ensemble o bobl ifanc yng nghanol y cyfnod clo, dyma brofiad theatrig digidol roedd yn delio â'r obsesiwn dynol o angen mwy o bopeth, angen pŵer a gwthio ffiniau i'r eithafion.