Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!

Baner Imrie

Imrie

Dyma’r parti sy’n newid ei byd am byth.

Mae Josie yn darganfod parti hudolus o dan y dŵr sy'n well nag unrhyw barti dynol erioed. Mae'n fyd lle mae’n darganfod ei gwir hunan - ac Imrie Sallow.

Uwchben y dŵr, mae hi ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, â chwaer sydd eisiau iddi fod yn 'hapus a normal'. Ond yng nghysgodion y byd arallfydol daw cyfrinach teuluol i’r wyneb sy’n newid popeth.

Wedi ei ysgrifennu gan Nia Morais (Crafangau / Claws, A Midsummer Night’s Dream gan Theatr y Sherman), mae Imrie yn stori i oedolion ifanc am obaith a dewrder.

Cyfarwyddwyd gan Gethin Evans (Woof, Ynys Alys, Galwad).

TAITH

  • Theatr y Sherman, Caerdydd 11 - 20 Mai
  • Canolfan Celfyddydau Pontardawe 23 Mai
  • Canolfan Celfyddydau Aberystwyth 24 Mai
  • Galeri, Caernarfon 25 - 26 Mai
  • Theatr Clwyd, Wyddgrug 6 Mehefin
  • Pontio, Bangor 7-8 Mehefin
  • Torch, Aberdaugleddau 10 Mehefin
  • The Riverfront, Casnewydd 14 Mehefin
  • Yr Egin, Caerfyrddin 15 Mehefin
  • Canolfan Garth Olwg, Pontypridd 16 Mehefin

Y DRAMODYDD

Daeth Nia Morais i’r amlwg fel un o leisiau mwyaf cyffrous y theatr Gymeig yng nghanol y pandemig gan ryddhau ei drama gyntaf Crafangau fel rhan o gyfres sain Theatr y Sherman, Calon Caerdydd, ac fe’i llwyfannwyd yn ddiweddarach mewn perfformiadau awyr agored. Mae hi bellach yn Awdur Preswyl yn Theatr y Sherman, ac yn dilyn ei gwaith yn addasu A Midsummer Night’s Dream i’r Gymraeg ochr yn ochr â Mari Izzard.

Dramodydd: Nia Morais

Cyfarwyddwr: Gethin Evans

Cynhyrchwyr: Frân Wen a Theatr y Sherman