Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!

Croendena Baner

Croendena

Mae Nel yn 17 oed ac yn darganfod dihangfa yn y pyb ar ben yr allt sy’n llawn o fflyrtio, rhagfarnau a lloriau sdici.

Dyma stori ddigri a thorcalonnus am fywyd merch ifanc sy’n trio ffendio’i thraed ynghanol unigrwydd gwledig.

Croendena yw cynhyrchiad diweddaraf y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.

Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.

TAITH

  • Neuadd Dwyfor, Pwllheli 2 - 4 Chwefror
  • Theatr Fach, Llangefni 6 - 7 Chwefror
  • Theatr Derek Williams, Y Bala 8 Chwefror
  • Pontio, Bangor 9 - 10 Chwefror
  • Theatr Twm O'r Nant, Dinbych 11 Chwefror
  • Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron 14 Chwefror
  • Theatr y Sherman, Caerdydd 16 - 17 Chwefror
  • Galeri, Caernarfon 20 - 21 Chwefror
O mai god. Ti mor stupid. Ff###ng idiyt. Mashwr bod masgara fi hanar ffor lawr fy ngwynab.

False Lash Effect Waterproof, my ass.

Cast: Betsan Ceiriog

Dramodydd: Mared Llywelyn

Cyfarwyddwr: Rhian Blythe

Cynhyrchwyr: Frân Wen