Olion Baner No Text
18.07.24

Tocynnau OLION ar werth

Tocynnau bellach ar werth ar gyfer y drioleg

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer trioleg OLION sydd wedi ei ysbrydoli gan chwedl Arianrhod. Mae OLION yn torri tir newydd, gan addo profiad rhyngweithiol a pherfformiadau byw a digidol o gwmpas dinas Bangor.

Y tîm creadigol sy’n arwain ar OLION, yw Anthony Matsena, Marc Rees, Angharad Elen a Gethin Evans. Gydag artistiaid profiadol wrth y llyw, bydd cynulleidfaoedd yn mynd ar daith wedi ei hysbrydoli gan chwedl Arianrhod a phrofiadau pobl ifanc LHDTC+ lleol.

  • Rhan I: Arianrhod yn agor am chwe noson o’r 20fed o Fedi gyda sioe theatr yn Pontio.
  • Rhan II: Yr Isfyd yn gynhyrchiad safle benodol mewn lleoliadau ar hyd a lled Bangor ar y 28ain o Fedi, a’r gynulleidfa yn cael dilyn perfformiadau o gwmpas y ddinas.
  • Gŵyl yr Adda. Yn ystod y rhan yma hefyd, bydd gŵyl gymunedol awyr agored gyda cherddoriaeth fyw, bwyd a dawnsio.
  • Rhan III: Y Fam. Ffilm fer sy’n cloi’r drioleg, gan gyfuno deunydd o rhan un a dau ac yn dilyn teulu lleol wrth iddynt fynd ar daith swreal drwy amser.
Mae OLION yn gwbl arloesol, dyma’r tro cyntaf i ni arbrofi gyda fformat trioleg a chyfuniad o berfformiadau aml safle, byw, a digidol mewn un cynhyrchiad fel hyn.
Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Fran Wen

"Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda thîm o artistiaid talentog dan arweiniad Angharad Elen, Anthony Matsena a Marc Rees– oll yn dod â phrofiad sylweddol efo nhw i Frân Wen a’r sioe hon,” ychwanegodd Gethin.

Wedi ei ariannu trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin rydym wedi cydweithio gydag elusen pobl ifanc, GISDA ar y cynhyrchiad.

Mae rhoi pobl ifanc wrth galon pob cynhyrchiad yn greadigol yn greiddiol i’n gweledigaeth ni yn Fran Wen a drwy gydweithio efo GISDA, mae OLION wedi sicrhau ein bod ni yn gallu gwneud hyn tra’n caniatáu i ni ddod â chynhyrchiad proffesiynol o’r safon uchaf yma i Fangor.

Bydd tocynnau yn mynd ar werth ar y 18fed o Orffennaf
gyda gostyngiad i’r rhai sydd am fanteisio ar gynnig cynnar tan y 25ain. Mae’r ŵyl deuluol yn rhad ac am ddim a bydd yn gyfle i gymuned Bangor brofi arlwy’r theatr yn ogystal â dod i adnabod Frân Wen, sy’n newydd i’r ddinas ers agor Nyth fel hwb gelfyddydol gymunedol yn 2023.

Mae hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr i griw o bobol ifanc sydd yn aml yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynnwys. Mae gweld eu hyder nhw’n tyfu ar yr un bryd â gweld y cynhyrchiad yma’n dod yn fyw wedi bod yn ysbrydoliaeth.
Sian Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA