Baner CIFW4 Newyddion
04.09.26

Llwybrau creadigol newydd i bobl ifanc 16–25 oed

Pedwar ffordd i gymryd rhan... pa un sy’n addas i chdi?

Mae ein Cwmnïau Ifanc yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud yn dda iawn. Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio theatr, magu hyder a chreu gwaith gyda’i gilydd. Ond wrth i bobl ifanc fynd yn hŷn, rydyn ni’n gwybod bod angen llwybrau cliriach arnyn nhw i ddatblygu eu diddordebau ymhellach.

Dyna pam rydyn ni’n lansio llwybrau creadigol newydd i bobl ifanc 16–25 oed o fewn ein rhaglen Cwmni Ifanc.

Pedwar ffordd o gymryd rhan

Mae’r llwybrau yma yn cynnig mwy o ddewis, mwy o ryddid a mwy o gyfleoedd i chdi brofi sut mae theatr broffesiynol yn cael ei greu.

Cwmni Ifanc 4

1. Cwmni Ifanc 4: Creu + Perfformio
Cost:
£60 bob tymor
Pryd: Bob yn ail nos Lun, 6pm - 9pm
Dyddiad cychwyn: 5 Hydref 2026

Dyma'r cyfle i chdi greu a perfformio mewn sioe!

Eleni, bydd y cwmni’n gweithio gyda’r awdur a’r artist theatr Buddug Roberts.

Yn ogystal â pherfformio yn y sioe, mi fyddi di'n helpu i ddatblygu’r stori, cymeriadau a sawl elfen arall i greu’r sioe.

Bydd sawl artist proffesiynol arall yn dod i gydweithio gyda chi gan gynnwys cyfarwyddwr, cerddor, dylunydd set a gwisgoedd.

Cwmni Ifanc Sgwennu

2. Cwmni Ifanc: Sgwennu
Cost:
£50 bob tymor
Pryd: Unwaith y mis (nos Fercher)
Dyddiad cychwyn: 23 September 2026

Oes gen ti syniad am ddrama? Cymeriad sydd ddim yn gadael llonydd i chdi? Neu jyst eisiau darganfod os mai sgwennu yw dy beth di?

Dyma gyfle i ddatblygu dy lais ochr yn ochr â rhai o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru.

Byddwn ni’n dod â chyfres o sesiynau meistr mi fyddi di’n gweithio gyda:

  • Mared Llywelyn
  • Leo Drayton
  • Hanna Jarman
  • Daf James
  • Elgan Rhys
  • Lowri Morgan

Bydd pob artist yn agor drws ar ran wahanol o’r grefft - syniad, cymeriad, strwythur, deialog, arbrofi a sut mae troi rhywbeth yn dy ben yn waith ar gyfer y llwyfan.

Bydd y rhaglen yn arwain at ddatblygu dy waith dy hun a chyfle i’w glywed yn fyw mewn darlleniadau yn Nyth a thu hwnt.

Mae Cwmni Ifanc: Sgwennu yn hybrid, felly galli di ymuno yn y sesiynau yn Nyth neu ar-lein.

Cwmni Ifanc Tech a Dylunio

3. Cwmni Ifanc: Tech + Dylunio
Cost:
£50 bob tymor
Dyddiadau tymor 1: 22 Medi (nos) / 25 Medi (nos) / 26 Medi (p'nawn) / Penwythnos y 23 Hydref (amser i'w gadarnhau)

Mewn partneriaeth â Pontio, bydd Cwmni Ifanc: Tech + Dylunio yn rhoi mynediad go iawn i chdi i’r bobl, y prosesau a’r gofodau sy’n gwneud theatr, gigs a digwyddiadau byw yn bosib.

Mae llwyth o waith yn digwydd cyn i gynulleidfa eistedd yn ei seddi, ac rydyn ni eisiau rhoi cyfle i chdi ei brofi drostot chdi dy hun.

Bydd cyfleoedd i fynd tu ôl i’r llenni yn ein cynhyrchiad proffesiynol Wythnos yng Nghymru Fydd, gan brofi ymarferion technegol, rhagddangosiadau a’r camau olaf cyn noson agoriadol.

Byddwn ni hefyd yn mynd â chdi i Theatr Bryn Terfel yn Pontio, lle cei weld sut mae theatr yn cael ei thrawsnewid yn leoliad cerddoriaeth fyw ar gyfer gŵyl BANG!

Beth sy’n digwydd yn ystod get-in? Pwy sy’n gwneud beth? Sut mae sain, goleuo, offer, artistiaid a thimau’r lleoliad yn dod at ei gilydd i wneud digwyddiad byw ddigwydd?

Oherwydd bod y sesiynau isod yn rhan o raglen broffesiynol Frân Wen a Pontio, bydd amserlen fanwl yn cael ei rhannu ar ddechrau pob tymor.

Cwmni Ifanc Adolygu

4. Cwmni Ifanc: Adolygu
Cost: £30 bob tymor
Dyddiadau tymor 1: 14 Hydref - 07 Tachwedd 2026

Datblyga dy lais fel adolygydd theatr.

Mae Cwmni Ifanc: Adolygu yn rhoi cyfle i chdi ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i ymateb i theatr fyw.

Dros dri thymor, byddi di’n derbyn mentoriaeth gan Gareth Llŷr Evans, adolygydd proffesiynol ar gyfer The Guardian, drwy sesiynau meistr sy’n archwilio sut i edrych ar theatr yn feirniadol, ffurfio a mynegi barn a datblygu dy lais dy hun fel adolygydd.

Ac yna byddi di’n mynd i weld y gwaith.

Mae pob tymor yn cynnwys:

  • 1 sesiwn meistr
  • 1 cynhyrchiad byw
  • 1 adolygiad
  • 1 cyhoeddiad

Erbyn diwedd y flwyddyn, byddi di wedi gweld tri chynhyrchiad, ysgrifennu tri adolygiad a chael dy waith wedi’i gyhoeddi.

Byddwn ni’n dy gefnogi drwy gydol y broses, o’r nodiadau cyntaf ar ôl gadael y theatr, drwy ddatblygu dy syniadau a mireinio dy ymateb, hyd at baratoi’r darn terfynol i’w gyhoeddi.

Y lle i fod

Mae holl weithgareddau ein Cwmnïau Ifanc yn byw yn Nyth. Nid jyst fel lleoliad ar gyfer y sesiynau.

Fel lle i aros. I gael paned. I sgwrsio. I gyfarfod ag artist. I roi cynnig ar syniad. I weld ymarfer yn digwydd. I ddod ar draws rhywbeth annisgwyl.

A lle i ddechrau meddwl amdana' chdi dy hun nid jyst fel rhywun sy’n 'hoffi theatr' ond fel artist, crëwr, sgwennwr, dylunydd, technegydd, cynhyrchydd neu adolygydd sydd â rhywbeth i’w gyfrannu.

Mwy o fanylion...

Bydd y sesiynau’n llai rheolaidd ond yn fwy dwys na’n Cwmnïau Ifanc iau, gan roi amser i ni fynd yn ddyfnach a chreu gwaith go iawn gyda’n gilydd.

Dydyn ni ddim eisiau i arian fod yn rhwystr, felly mae cefnogaeth ariannol a bwrsariaethau ar gael.

Mae’r rhaglenni’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr newydd a dysgwyr.

Cofia na chdi sy’n dewis dy lwybr. Chdi fydd yn datblygu dy waith. Chdi fydd yn rhan o’r broses greadigol.

Archeba dy le