Cyn Iddi Nosi
Cynhyrchiad Newydd: Cwmni Ifanc 3 yn cyflwyno Cyn Iddi Nosi yn Nyth
Wrth i’r byd eu gwthio i’r ymylon, mae tri person ifanc yn ceisio darganfod lloches mewn breuddwyd, gan ddarganfod y cryfder i ddychmygu dyfodol mwy disglair a gobeithiol.
Mae Cwmni Ifanc 3 (16–25 oed) yn falch o gyflwyno Cyn Iddi Nosi, cynhyrchiad gwreiddiol sy’n dathlu dyfeisgarwch a chreadigrwydd pobl ifanc wrth iddynt brofi’r pŵer o freuddwydio a dychmygu posibiliadau newydd.
Gan blethu lleisiau ein pobl ifanc gyda choreograffi a cherddoriaeth, cyd-grëwyd Cyn Iddi Nosi gan y Cwmni Ifanc, gyda geiriau gan Nia Morais a Hedydd Ioan, cyfarwyddo gan Elgan Rhys, cerddoriaeth gan Sam Humphreys, coreograffi gan Eli Williams a goleuo gan Jeannette Baxter.

Roedd cael y cyfle i sgwennu ar gyfer Cyn Iddi Nosi yn brofiad bendigedig,. Mae’r awyrgylch yn yr ystafell yn un o greadigrwydd pur ac mae wedi bod yn wefreiddiol gweld beth mae’r bobl ifanc wedi ei greu gyda’r geiriau.Hedydd Ioan, cyd-awdur Cyn Iddi Nosi
Mae un aelod o’r cast, Non Humphreys, 17 o Nefyn, wedi cael profiad bythgofiadwy yn yr ystafell ymarfer:

Mae o wedi bod yn gyfnod arbennig, o gydweithio efo Hedydd a Nia ar sgript - yn rhannu profiadau a negeseuon rydym eisiau ei rannu gyda’r gynulleidfa, i gydweithio efo Eli er mwyn creu delweddau i’r hyn ‘dani’n ei wneud ac eisiau ei ddweud.Non Humphreys, aelod cast Cyn Iddi Nosi
Wedi’i ysbrydoli gan addasiad llwyfan Mared Llywelyn o Wythnos yng Nghymru Fydd, mae Cyn Iddi Nosi yn mynd i’r afael â bregusrwydd gobaith mewn byd anniben. Mae’r cymeriadau’n ofni deffro a gweld eu breuddwydion yn diflannu sy'n codi'r cwestiwn: Pam breuddwydio o gwbl?

Ychwanegodd y cyd-awdur Nia Morais:
Dwi wedi wir mwynhau archwilio’r themâu o freuddwydion a dychymyg gyda’r Cwmni Ifanc. Mae sgwennu rhannau o'r ddrama ar y cyd gyda Hedydd wedi bod yn brofiad ysbrydoledig ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweld y sioe gyfan.Nia Morais, cyd-awdur Cyn Iddi Nosi
Bydd Cyn Iddi Nosi yn cael ei pherfformio’n fyw yn Nyth, Bangor ar nos Wener 27 Mawrth (7.30pm).
Manylion y Cynhyrchiad
Cwmni: Cwmni Ifanc Frân Wen 3
Awduron: Nia Morais a Hedydd Ioan
Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
Tîm Creadigol: Sam Humphreys (Cerddoriaeth), Eli Williams (Coreograffi), Jeannette Baxter (Goleuo)