Cast cymunedol Praidd
Cast cymunedol yn ymuno â chast proffesiynol y sioe ar fferm
Rydym wrth ein bodd cyhoeddi bod cast cymunedol yn ymuno â chast proffesiynol Praidd fis Mai (08-10) yma yn Anelog, Aberdaron.
Mae castio Siôn Emyr, Carys Gwilym, Owen a Arwyn a Dewi Wykes eisoes wedi'i gyhoeddi, ond i wneud y sioe yma’n wirioneddol arbennig, rydyn ni wedi gwahodd rhai o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd Pen Llŷn i gamu ar y llwyfan (buarth!!) efo ni.
Pwy sy’n ymuno?
Mi ffydd lleisiau'r cast cymunedol yn atseinio dros gaeau Anelog wrth i Gôr Meibion Carnguwch ymuno ag aelodau o Gwmni Drama Llwyndyrys, Cwmni Drama Llangian ac aelodau o Gwmni Ifanc Frân Wen.
Mae cael y lleisiau cymunedol yma yn ychwanegu haen bwerus i’r cynhyrchiad. Mae’n caniatáu i ni greu ensemble sy’n dod â thirwedd Anelog yn fyw mewn ffordd sy’n llawer mwy na theatr traddodiadol.Elis Pari, Cyfarwyddwr Praidd
Pam fod hyn yn bwysig?
I’r cyfarwyddwr, Elis Pari, roedd hi’n hanfodol bod y gymuned wrth galon y ddrama. Mae Praidd (08-10 Mai) yn stori am y tir, etifeddiaeth, a dyfodol ffermio a phwy well i adrodd y stori honno na’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma bob dydd?