Cyhoeddi cast Praidd
Rhannu cast ein cynhyrchiad ar fferm fyw
Pleser yw cyhoeddi cast ein cynhyrchiad nesaf, Praidd, sy’n cael ei lwyfannu ar fferm fyw yn Anelog ger Aberdaron.
Bydd y stori bwerus hon, sy’n cael ei pherfformio 08-10 Mai, yn pontio rhwng realiti bywyd amaethyddol ym 1914 a heddiw.
Yn chwarae prif ran Dafydd, ffermwr ifanc heddiw, mae Siôn Emyr. Yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru, mae o wedi serennu’n ddiweddar fel Dr. Dan Morris yn Pobl y Cwm ar S4C ac wedi chwarae rhan yn sioeau ‘Llanast’ (Theatr Bara Caws) a ‘Culwch ac Olwen’ (Cwmni Mega).
Bydd perfformio drama fyw ar fferm yn brofiad bythgofiadwy ac rwy’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r tîm fydd yn rhannu’r stori bwysig yma.Siôn Emyr
Yn ymuno â’r cast mae Carys Gwilym, sy’n chwarae rôl mam Dafydd. Mae’r cynhyrchiad yn garreg filltir bersonol i Carys; a hithau bellach yn byw yn Nefyn, mae’n dychwelyd i berfformio yn yr union ardal lle magwyd ei thad. Mae’r actor profiadol wedi perfformio sawl gwaith i gwmnïau fel Theatr na nÓg a Theatr Cymru, ac mae wedi ymddangos ar y sgrîn yn ddiweddar yn Rybish a’r ffilm Effi o Blaenau.
Mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys Owen Arwyn fel William, ffermwr o gychwyn yr 20fed ganrif. Mae Arwyn yn dod â phrofiad helaeth i’r rôl, gyda gyrfa sy’n cynnwys rhannau gyda Theatr Cymru a chyfresi teledu poblogaidd fel Y Gwyll (Hinterland), It’s a Sin, a Dal y Mellt. Mae o ar hyn o bryd yn teithio llwyfannau Cymru gyda’r cynhyrchiad Ledi’r Wyrcws.
Yn cwblhau’r ensemble mae Dewi Wykes, sy’n perfformio dwy rôl: Griffith a Guto. Ers graddio o Bristol Old Vic yn 2021, mae Dewi wedi ennill canmoliaeth uchel, gan gynnwys enwebiad am wobrStage Debut am ei ran yn Petula. Mae ei waith sgrîn diweddar yn cynnwys Mr Bates vs The Post Office a The Sister Boniface Mysteries.
Wedi'i ysgrifennu gan Gwyneth Glyn mewn cydweithrediad â’r gymuned, a'i chyfarwyddo gan Elis Pari, mae Praidd yn stori bwerus am dir, etifeddiaeth, a’r pris personol o ymladd i gadw’r ddau’n fyw.

Praidd
08-10 Mai
Tocynnau ar gael yma