Baner Cast Branwen2
19.09.23

Aelodau newydd i Branwen:Dadeni

Cyhoeddi aelodau cast newydd i'r sioe gerdd Gymraeg epig

Gillian Elisa

Mae’r actores deledu a llwyfan adnabyddus Gillian Elisa wedi ymuno â chast Branwen: Dadeni wrth i ymarferion gychwyn ar gyfer y sioe gerdd ddramatig Gymraeg newydd.

Bydd yr ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen, sy'n gyd-gynhyrchiad efo Canolfan Mileniwm Cymru, yn mynd ar daith ar draws Cymru ym mis Tachwedd.

Mae tocynnau ychwanegol wedi’u rhyddhau yng Nghaerdydd oherwydd galw mawr, tra bod perfformiadau wedi gwerthu allan yn barod yn Aberystwyth a Bangor.

Bydd Gillian Elisa yn chwarae rôl Ena, ffigwr sy’n cynghori Matholwch, Brenin Iwerddon. Cafodd ei geni yng Nghaerfyrddin a’i magu yn Llanbedr Pont Steffan, a chaiff ei hadnabod fwyaf am ei rolau yn Pobol y Cwm a Hidden.

Ar ôl chwarae rôl Branwen ym Melltith ar y Nyth, yr opera roc Gymraeg gyntaf ar y teledu, rwy’n teimlo ‘mod i’n cau’r cylch wrth ymuno â chynhyrchiad cenhedlaeth newydd yn seiliedig ar straeon y Mabinogion.
Gillian Elisa
Octet Branwen Dadeni

Mae Wythawd o gantorion, a fydd yn rhan o waead gerddorol y sioe, hefyd wedi’i datgelu. Aelodau’r Wythawd fydd Lisa Angharad, Huw Euron, Steffan Hughes, Miriam Isaac, Elan Meirion, Niamh Moulton, Cedron Sion ac Adam Vaughan.

Tegwen Velios a Mali Grooms

Mae dwy actor ifanc o Gaerdydd hefyd wedi’u castio i rannu rôl sylweddol fel Gwern/Child. Bydd Mali Grooms a Tegwen Velios yn perfformio ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf.

Maent yn ymuno â chast dalentog sydd wedi’i arwain gan y cerddor a pherfformiwr arobryn Mared Williams, sy’n chwarae’r brif rôl. Caitlin Drake (Miss Littlewood, RSC & Cunard; Pavilion, Theatr Clwyd) fydd yn chwarae Efnisien, chwaer Branwen, tra bydd Rithvik Andugula o Gaerdydd (debut broffesiynol) yn chwarae Matholwch – gan loywi ei Gymraeg ar ôl peidio ei ddefnyddio ers bod yn yr ysgol. Tomos Eames (BBC Shakespeare and Hathaway Private Investigators; S4C Gwaith/Cartref) fydd yn chwarae Bendigeidfran – brawd Branwen a Brenin Cedyrn – tra bydd Ioan Hefin (Netflix Apostle; BBC Steeltown Murders) yn chwarae Picell – presenoldeb dirgel newydd yn y stori.

08 - 25 Tachwedd
branwen : dadeni

Manylion tocynnau...

Mwy