Cyhoeddi cast Branwen:Dadeni
Cyhoeddi cast ein sioe gerdd newydd efo Canolfan Mileniwm Cymru.
Bydd y cerddor a pherfformiwr arobryn Mared Williams yn chwarae’r brif rôl yn y sioe Branwen: Dadeni.
Bydd yr aelod o’r grŵp Welsh of the West End, a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Britain’s Got Talent, yn arwain cast talentog yn yr ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen o straeon mytholegol hynafol y Mabinogi, a fydd ar daith ar draws Cymru ym mis Tachwedd.
Ar ôl graddio o’r Royal Academy of Music, cyflenwodd Mared Williams rôl Eponine yng nghynhyrchiad newydd y West End o Les Miserables yn 2019-2022. Yn 2021 enillodd albwm ddwyieithog gwerin/pop gyntaf Mared, ‘Y Drefn,’ wobr Albwm y Flwyddyn. Yn ddiweddar chwaraeodd rôl Clara yn y premiere Ewropeaidd o ddrama Mark Blitzstein, ‘No For An Answer’ yn yr Arcola Theatre.
Caitlin Drake (Miss Littlewood, RSC & Cunard; Pavilion, Theatr Clwyd) fydd yn chwarae Efnisien, chwaer Branwen, tra bydd Rithvik Andugula o Gaerdydd (debut broffesiynol) yn chwarae Matholwch, Brenin Iwerddon – gan loywi ei Gymraeg ar ôl peidio ei ddefnyddio ers bod yn yr ysgol. Tomos Eames (BBC Shakespeare and Hathaway Private Investigators; S4C Gwaith/Cartref) fydd yn chwarae Bendigeidfran – brawd Branwen a Brenin Cedyrn – tra bydd Ioan Hefin (Netflix Apostle; BBC Steeltown Murders) yn chwarae Picell – presenoldeb dirgel newydd yn y stori.
Rhagor o gast a thîm creadigol i’w gyhoeddi.
Rwy'n edrych ymlaen ac yn nerfus i fod yn rhoi fy sbin fy hun ar Branwen a dechrau ystyried cymeriad Cymreig mor eiconig a chymhleth.Mared Williams