Cyhoeddi cast Branwen:Dadeni
13+ Oed
Sioe gerdd epig Gymraeg
Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid.
Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes.
Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn. Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobl, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando.
Yn ystod ymweliad annisgwyl Brenin Iwerddon, mae hi’n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais hi’n cyfrif a bydd ganddi’r grym i newid pethau. Ond, wrth i’w seren hi godi, mae pob bargen, bradychiad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i’r tywyllwch, tan, ar drothwy diwedd popeth, fe ddaw’r gost yn glir.
Beth fyddech chi’n ei aberthu i greu byd cyfiawn?
Sioe gerdd newydd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen sy’n ailddychmygu’r stori eiconig, gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo cast rhagorol o berfformwyr a cherddorion.
Llyfr gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies; cerddoriaeth a geiriau gan Seiriol Davies.
Canllaw oed 13+
Ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol
DYDDIAD | LLEOLIAD |
---|---|
8–11 Tach 2023 | Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd |
15–17 Tach 2023 | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth |
22–25 Tach 2023 | Pontio, Bangor |
Crynodeb Saesneg Branwen: Dadeni (PDF)
Download English Synopsis / Lawrlwythwch Crynodeb Saesneg
Crynodeb Sain Ddisgrifiad Cymraeg (MP3)
Disgrifio'r stori, set, cymeriadau, a gwisgoedd. / Describes the story, set, characters, and costumes.
Cyhoeddi cast Branwen:Dadeni
Aelodau newydd i Branwen:Dadeni
Cast: Mared Williams, Caitlin Drake, Rithvik Andugula, Tomos Eames, Ioan Hefin, Gillian Elisa, Mali Grooms, Tegwen Velios
Wythawd: Lisa Angharad, Huw Euron, Steffan Hughes, Miriam Isaac, Elan Meirion, Niamh Moulton, Cedron Sion, Adam Vaughan
13+ Oed
CAPSIYNAU
Bydd pob perfformiad yn cynnwys capsiynau yn Gymraeg a Saesneg.
PERFFORMIADAU SAIN DDISGRIFIO (YN Y GYMRAEG) A TEITHIAU CYFFWRDD AR Y SET
Allweddol i archebu ymlaen llaw drwy swyddfa docynnau’r theatr.
11 Tachwedd - Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
17 Tachwedd - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
25 Tachwedd - Pontio, Bangor
CRYNODEB SAIN I’W LAWRLWYTHO
Nodyn sain eglurhaol ar gael i’w lawrlwytho cyn eich ymweliad â’r theatr. Mae'r crynodeb yn disgrifio'r stori, set, cymeriadau, a gwisgoedd.
CRYNODEB SAESNEG
Crynodeb Saesneg i siaradwyr Cymraeg newydd a'r di-Gymraeg
Llyfr: Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies
Cerddoriaeth a geiriau: Seiriol Davies
Cyfarwyddwr: Gethin Evans
Cyfarwyddwr Cerdd: Geraint Owen
Dylunydd Set a Gwisgoedd: Elin Steele
Dylunydd Goleuo: Bretta Gerecke
Dylunydd Sain: Sebastian Frost
Trefniant Cerddorfaol: Owain Roberts
Cyfarwyddwyr Symudiad: Nia Lynn a Owain Gwynn
Cyfarwyddwr Castio: Hannah Marie Williams / HMW Casting
Cynhyrchydd: Branwen Jones
Lluniau cynhyrchiad: Craig Fuller
Mae’r cynhyrchiad yn cyfeirio at:
Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys: