Baner Penwythnos Stiwdio Lles1

Penwythnos Y Stiwdio Lles

Penwythnos creadigol am ddim i oedolion ifanc

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth creadigol, cyfarfod pobl newydd neu wneud rhywbeth ychydig yn wahanol y penwythnos yma?

Ymunwch â ni yn Nyth, Bangor, ddydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Rhagfyr am benwythnos creadigol am ddim fel rhan o Stiwdio Lles.

Wedi’i greu ar gyfer oedolion ifanc rhwng 18 a 30 oed, mae Stiwdio Lles yn cynnig gofod croesawgar ac anffurfiol i archwilio creadigrwydd, magu hyder, gwella eich lles a chysylltu ag eraill - gan fynd ar eich cyflymder eich hun.

Dros y penwythnos, cewch gyfle i gydweithio â thri artist proffesiynol, gyda phob un yn cynnig dull creadigol gwahanol:

  • Robin Edwards | Cerddoriaeth a sain: Archwiliwch gerddoriaeth a sain, a’r posibiliadau o greu rhywbeth gyda’ch gilydd.
  • Casi Wyn | Canu: Dewch o hyd i’ch llais, arbrofwch gyda chanu a mwynhewch greu cerddoriaeth mewn awyrgylch hamddenol.
  • Eli Williams | Symud: Byddwch yn greadigol drwy symud, archwilio sut gall eich corff fynegi syniadau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond meddwl agored a pharodrwydd i roi cynnig arni!

Mae’r sesiynau’n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), yn hollol rhad ac am ddim ac yn agored i oedolion ifanc rhwng 18 a 30 oed.

Hoffech chi ymuno â ni?

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle.

Cofrestrwch yma

Byddai’n hyfryd eich gweld chi yno.

Mae Y Stiwdio Lles yn brosiect sy’n bartneriaeth rhwng Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, cwmni theatr Frân Wen, a gyda chefnogaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor, Mantell Gwynedd, Coleg Menai, Hwb Dinas Bangor a Meddygfa Bodnant Bangor.

Cefnogir y prosiect gan Rhaglen Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru.

Manylion

  • Cychwyn: 05.12.26
  • Gorffen: 06.12.26
  • Lle: Nyth, Bangor
  • Categori: Cymunedol

Pryd: Dydd Sadwrn 5 - Dydd Sul 6 o Ragfyr 2026
Lle: Nyth, Bangor
Cost: Am ddim
Sut:
Cofrestrwch yma

You might also like...

Clwb Haf Frân Wen

Clwb Haf Frân Wen

11.08.26 - 20.08.26

3 diwrnod llawn dop o hwyl, gemau, straeon a chwarae efo theatr

Find out more »
Fa'ma Porthmadog

Fa'ma Porthmadog

04.11.26 - 04.11.26

Dathlu strydoedd Porthmadog drwy lygaid creadigol pobl ifanc

Find out more »