Clwb Haf26

Clwb Haf Frân Wen

3 diwrnod llawn dop o hwyl, gemau, straeon a chwarae efo theatr

Dy blentyn yn caru fod yn greadigol? Hoffi theatr neu perfformio? Eisiau creu ffrindiau newydd a chael hwyl?

Ydych chi'n am rywbeth i gadw nhw'n brysur yn ystod yr haf?

Mae Clwb Haf Frân Wen yn 3 diwrnod llawn dop o hwyl a sbri.

O dan arweiniad Elis Pari ac artistiaid proffesiynol, mi fydd dy blentyn yn ymuno â chriw o blant eraill i ddod â straeon gwreiddiol yn fyw.

Gyda’i gilydd, byddant yn diflanu i fyd y ddrama, yn darganfod y grefft o ddyfeisio, ac yn meithrin yr hyder i berfformio ar y llwyfan. Hyn oll wrth gael llawer o hwyl!

Byddwn ni'n rhedeg dau glwb yr haf yma, un i blant 7-9 oed (11-13 Awst) ac un i blant 10-12 oed (18-20 Awst).

Manylion

11 - 12 Awst: 7 - 9 oed

Oed:7 - 9 oed (bl 3 a 4 Medi 2026)
Dyddiadau:Dydd Mawrth 11 Awst i Dydd Iau 13 Awst
Amser:10am - 3pm bob dydd
Lleoliad:Nyth, Bangor
Cost:£60 am yr 3 diwrnod (3 sesiwn x 5 awr)

18 - 20 Awst: 10 - 12 oed

Oed:10- 12 oed (bl 5 a 6 Medi 2026)
Dyddiadau:Dydd Mawrth 18 Awst i Dydd Iau 20 Awst
Amser:10am - 3pm bob dydd
Lleoliad:Nyth, Bangor
Cost:
£60 am yr 3 diwrnod (3 sesiwn x 5 awr)

Sut i gofrestru

Cliciwch yma i archebu. Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly cyntaf i’r felin!

Eisiau sgwrs?

Os hoffech sgwrs anffurfiol am ein Clwb Haf cysylltwch drwy Instagram/Facebook neu:

☎️ 01248 715 048
📧 cifw@franwen.com
📍 neu dewch i Nyth am sgwrs

Archebu Clwb Haf Fran Wen

........................................................................

Mae bwrseriaethau ar gael ar gyfer teuluoedd incwm isel, cysylltwch gyda ni drwy cifw@franwen.com i dderbyn mwy o wybodaeth.

Cynigir gostyngiad o 25% ar gyfer mwy nag un plentyn yn y teulu.

Er mwyn cymryd rhan, rydym yn gofyn i bawb ymrwymo i’r holl dyddiadau.

Bydd y weithgaredd yn digwydd drwy’r Gymraeg ac rydym yn croesawu siaradwyr Cymraeg newydd. Byddwn yn darparu cefnogaeth i helpu eich plentyn deimlo’n hyderus.

Manylion

You might also like...