6 cyfarwyddwr a 30 o bobl ifanc yn creu fflachiadau arbennig ym Mangor.
Gan gyd-weithio gydag Ieuenctid Gwynedd, roedd Dim Byd ‘tha Chdi yn ehangu ar ein gwaith gyda phobl ifanc o gymunedau amrywiol ar draws y sir.
Cychwynnodd y broses drwy greu hybiau o bobl ifanc yng Ngwynedd, gyda'r nod o hybu llesiant a chyd-rannu, gan drafod y gorffennol, y dyfodol, a rŵan hyn.
Y diweddglo oedd dod â’r hybiau yma o bobl ifanc at ei gilydd gyda 6 cyfarwyddwr ifanc er mwyn creu perfformiadau arbennig ar stryd fawr Bangor roedd yn cyfuno’r holl leisiau yma mewn profiad swnllyd, lliwgar a disglair.
Roedd lleoliadau ac amseroedd y perfformiadau yn cael ei gyhoeddi ar ein 'socials' am 10am bob bore.
Y CYFARWYDDWYR
Cybi Williams x Elis Pari x Hafwen Hibbard x Hannah Lynn Hughes x Juliette Manon Lewis x Yannick Hammer
Lluniau: Ifan James