Cyfarwyddwyr
02.03.22

Chwilio am gyfarwyddwyr dan 30

​​Cyfle i chwech o bobl creadigol dan 30 i arwain prosiect creadigol

Rydym yn chwilio am chwech person creadigol dan 30 oed i gydweithio hefo ni ar brosiect arloesol Dim Byd ‘tha Chdi, sydd am greu fflachiadau o berfformiadau ym Mangor, yn gwneud sŵn ac uchafu lleisiau pobol ifanc 13 - 17oed Gogledd-orllewin Cymru.

Bydd y broses creu yn gyflym ac yn egnïol, ac wedi ei ddylanwadu gan sgyrsiau gyda’n Cwmni Ifanc dros y misoedd dwytha. Gyda’r criw yma o bobl ifanc, a chefnogaeth ein tîm cynhyrchu a thechnegol, byddwch yn creu fflach perfformiadol ar gyfer gofod cyhoeddus yng nghanol dinas Bangor.

Mae ein diffiniad o berfformiad yn eang - nid sioe draddodiadol ydan ni’n chwilio amdano, ond rhywbeth heb lwyfan - gofodau agored a chyhoeddus fydd y llwyfan ar gyfer y gwaith. Gall y gwaith fod yn berfformiad, flash mob, ffilm, cerddoriaeth, darn o gelf cyhoeddus.

Ffi: £800 a costau teithio

Dyddiadau: dyddiau amrywiol rhwng 28 Mawrth ac Ebrill 22, 2022. Angen bod ar gael Ebrill 12 ac 14 ac un diwrnod rhwng 20 a 22 Ebrill.

Uchafswm o 5 diwrnod.

Bydd cyfle i gydweithio â chyfarwyddwyr eraill ifanc yn ogystal a thîm profiadol Frân Wen. Bydd y gwaith sydd yn cael ei greu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Cyfle ar agor i:

  • Bobl dan 30 oed

  • Gyda chysylltiad neu eisiau cysylltiad hefo Gogledd Orllewin Cymru

  • Dim angen profiad o gyfarwyddo

  • Angerddol dros gydweithio gyda phobl ifanc

Gallwn gynnig cefnogaeth i bawb o bob gallu a phrofiad.

Os oes ganddoch chi ddiddordeb cysylltwch am sgwrs cyn gynted â phosib ac erbyn 10 Mawrth ar yr hwyraf.

Tecstiwch, WhatsAppiwch, ffoniwch neu ebostiwch: 07854032643 neu niahaf@franwen.com