Dramedi newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun.
Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela a ffymbls maes parcio'r National Trust.
Mae'r haf ar droed. Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn llawn posibiliadau. Tra bod rhai perthnasau’n blodeuo, mae eraill yn dirywio. Ond ydi Nel yn gallu delio hefo hyn?
Betsan Ceiriog sy'n serennu yn y ddramedi Gymraeg newydd yma gan y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.
Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.
TAITH
- Neuadd Dwyfor, Pwllheli 2 - 4 Chwefror
- Theatr Fach, Llangefni 6 - 7 Chwefror
- Theatr Derek Williams, Y Bala 8 Chwefror
- Pontio, Bangor 9* (GWERTHU ALLAN) - 10 Chwefror
- Theatr Twm O'r Nant, Dinbych 11 Chwefror (01745 812349 / 07919 912743 neu Siop Clwyd i archebu tocyn)
- Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron 14 Chwefror
- Theatr y Sherman, Caerdydd 16* - 17 Chwefror
- Galeri, Caernarfon 20 - 21 Chwefror
*BSL + Capsiynau Saesneg a Cymraeg
Canllaw oedran: Anaddas i dan 14 oed.
ADNODDAU
O mai god. Ti mor stupid. Ff###ng idiyt. Mashwr bod masgara fi hanar ffor lawr fy ngwynab.
False Lash Effect Waterproof, my ass.
DATBLYGU ARTISTIAID
Mae Croendena yn ddrama gomedi a ddatblygwyd fel rhan o’n Rhaglen Datblygu Artistiaid yn 2021 gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru (mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru).
Cast: Betsan Ceiriog
Dramodydd: Mared Llywelyn
Cyfarwyddwr: Rhian Blythe
Cynllunydd set a gwisgoedd: Cai Dyfan
Cyfansoddwr: Sam Humphreys
Goleuo: Ceri James
Lluniau: Kristina Banholzer