Rhaglen datblygu artistiaid i archwilio dulliau newydd i hoelio sylw cynulleidfaoedd theatr.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein rhaglen ‘sgwennwyr newydd llynedd, rydym wedi ymuno eto gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, i ddatblygu artistiaid theatr dan 30 oed.
Rydym eisoes wedi comisiynu tri darn newydd o waith o raglen 2021, felly mae’n gyffrous ein bod ni'n gallu ymestyn rhaglen eleni i wneuthurwyr theatr o bob disgyblaeth.
Eleni bydd ffocws arbennig ar dechnoleg a theatr awyr agored. Bydd y cyfle yn cynnig hyfforddiant, mentoriaeth, datblygiu rhwydwaith newydd a’r cyfle i rannu gwaith yn yr Eisteddfod 2022.