Olion Baner No Text

Olion

Chwedl gyfoes mewn tair rhan

O grombil y Mabinogi, dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod.

Bydd trioleg OLION yn brofiad unigryw ar ffurf sioe theatr, digwyddiad diwrnod o hyd ar strydoedd Bangor, a ffilm fer.

Ymunwch â ni ym mis Medi ar daith o ddyfnderoedd y môr i brofi uchelfannau rhyddid.

Rhan I: Arianrhod

Sioe theatr fyw sy’n ddehongliad newydd o stori boddi Caer Arianrhod.

Mae’r gaer yn fwrlwm o ryw a hedonistiaeth ysbrydol ac mae Arianrhod a’i ffrinidau agos - sydd wedi dianc o ryfel cartref - yn paratoi am eclips solar sy’n gaddo gwawr newydd. Ond mewn moment o dywyllwch wrth i’r lleuad orchuddio’r haul, maen nhw’n wynebu brad a thrais anesboniadwy.

Wrth i Arianrhod barhau i wrthsefyll pwysau gan ei theulu, mae hi’n ysgogi storm oruwchnaturiol sy’n suddo Caer Arianrhod i waelod y môr.

Miloedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae disgynyddion Arianrhod yn dal i fyw mewn ofn ar wely’r cefnfor. Ond a fyddan nhw’n cael eu temtio i adael eu cartref er mwyn profi’r tir uwchben drosynt eu hunain?

Yn llawn dawns a cherddoriaeth, dyma gynhyrchiad theatr pwerus am un noson dyngedfennol sy’n atseinio drwy’r canrifoedd.

Rhan II: Gŵyl yr Isfyd

Cerddoriaeth fyw, bwyd a dawnsio, wrth i ni droi un o barciau Bangor yn ŵyl gymunedol, awyr-agored rhad ac am ddim.

Wrth i fwrlwm yr ŵyl fagu stêm, mae disgynyddion Arianrhod yn ymddangos o’r môr. A fydd croeso iddynt, neu a oedden nhw’n iawn i boeni am bobl y tir sych wedi’r cwbl?

Bydd golygfeydd yn ymddangos ar hyd Bangor drwy gydol y dydd gyda gwrthdaro ac achubiaeth ddramatig yn trawsnewid yr ŵyl yn ddathliad o amrywiaeth, goddefgarwch a llawenydd.

Rhan III: Y Fam

Yr epilog.

Ffilm fer sy’n cyfuno deunydd o ran I a II wrth i ni ddilyn stori teulu cyffredin o Fangor.

Ond beth sy’n digwydd pan fydd siwrne seicedelig yn trawsnewid Hirael i mewn i fyd ffantasi Caer Arianrhod?

Tocynnau

Bydd tocynnau ar werth ym mis Mehefin 2024.

Mewn cydweithrediad â Pontio, Bangor gyda chefnogaeth Storiel.

Mae Frân Wen yn derbyn cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ei raglen.

Mae Olion, sy'n rhaglen 15 mis o weithgareddau hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd. Mae’r prosiect wedi derbyn £252,911 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

CAST cymunedol
olion

Cyfle arbennig i fod yn rhan.

Mwy


Archebu Tocynnau

Tîm Creadigol

Sgwennwyr: Angharad Elen a Sera Moore Williams

Dramatwrg Arweiniol: Angharad Elen

Cyfarwyddwr Creadigol: Gethin Evans

Cyd-gyfarwyddwr Rhan I: Anthony Matsena

Dramatwrg Gweledol a Cyfarwyddwr Rhan II: Marc Rees

Dylunydd: Elin Steele

Cyfansoddwr: Alex Comana

Dylunydd Goleuo: Ryan Stafford

Cyfarwyddwr Cymunedol: Elis Parry

Coreograffydd Cymunedol: Rebecca Wilson

Ymgynghorydd Hygyrchedd: Kaite O’Reilly

Cynhyrchwyr: Deryncoch Cyf / Ceriann Williams

Mewn cydweithrediad â Lewis Williams, Eva Smith, Isaac Parsons, Keira Bailey-Hughes, Eleanor Parsons, Cefyn Williams, Mabon Williams, Sky Kiera-Louise Davies, Reece Moss Owen, Anya Davin-Easey Sherlock, Tamzin Amy Jones, Catrin Hughes, Lee Southgate, Christie Hallam-Rudd, Vex Vaughan, Shay a Con

Mewn cydweithrediad â Pontio, Bangor gyda chefnogaeth Storiel.