Cyhoeddi cast Ynys Alys
Cyhoeddi’r cast ar gyfer Ynys Alys, cynhyrchiad diweddaraf y cwmni sy’n cyfuno theatr, pop a rap.
Mae’r tîm creadigol yn paratoi i gychwyn ymarferion ar gyfer y cynhyrchiad Cymraeg newydd sydd wedi’i ysgrifennu gan Gareth Evans-Jones, gyda cherddoriaeth wedi’i gyfansoddi a’i berfformio gan y rapiwr Lemarl Freckleton a’r artist pop Casi Wyn.
TAIR YN BAROD I GAMU AR LWYFAN
Mae Valmai Jones a Fflur Medi Owen yn ymuno â’r cwmni, gan chwarae rhan mam a merch sy’n brwydro dros ddyfodol eu ‘cartref’. Yn ymuno â nhw ar y llwyfan yn ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf mae Becca Naiga fel Alys, merch ifanc sy’n ceisio darganfod ei hannibyniaeth am y tro cyntaf.
Yn un o hoelion wyth y theatr Gymraeg, mae Valmai yn perfformio gyda Frân Wen am y tro cyntaf. Mae ymddangosiadau’r actor o fri yn cynnwys perfformiadau yn Gas Station gan The Royal Court ac Halibalw gan Theatr Bara Caws. Ar y sgrin mae’r actor wedi serennu yn Pitching In gan y BBC, Mind to Kill ar Channel 5 a C’Mon Midffîld ar S4C.
Mae Fflur yn dod â’i chariad o chwarae o gwmpas gyda profiadau a straeon gwahanol i’r rôl. Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys Y Tad gan Theatr Genedlaethol Cymru, Pili Pala a 35 Diwrnod ar S4C.
CWBLHAU EI THAITH
Yn wyneb newydd i theatr proffesiynol, mae Becca wedi datblygu a magu profiad drwy fod yn aelod o Gwmni Ifanc Frân Wen ers dros 5 mlynedd. Roedd ei rôl ddiweddaraf yn y cynhyrchiad theatr digidol Faust + Greta yn 2021 gan Frân Wen mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio Bangor.
Bydd y cynhyrchiad Ynys Alys yn cychwyn ei daith cenedlaethol yn Pontio, Bangor, ar ddydd Gwener, 18 Mawrth 2022.
Mae’r cynhyrchiad wedi’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans, ac mae’r tîm creadigol yn cynnwys Jenny Hall sy’n cynllunio’r set, Angharad a Rhiannon Matthews sy’n gyfrifol am y gwisgoedd, cynllunio goleuo a mapio gan Ceri James, dylunio a chynhyrchu sain gan Alex Comana, cyfarwyddo ffilm Griff Lynch a’r cyfarwyddwr cyswllt fydd Hannah McPake.
WRTH EI FODD
“Dwi wrth fy modd yn cyhoeddi cast Ynys Alys ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda rhai o artistiaid gorau Cymru,” meddai Gethin Evans.
“Testun balchder yw gallu castio Becca yn rôl Alys – mae ei thaith gyda Frân Wen yn atgyfnerthu’r ein huchelgais fel cwmni, i gefnogi a datblygu artistiaid ifanc y dyfodol. Dwi’n sicr y bydd hi’n disgleirio ar lwyfannau ledled Cymru.”
Mae Ynys Alys yn teithio theatrau Cymru rhwng 17 Mawrth – 09 Ebrill.