Mae’n bryd i Alys ddechrau byw ei bywyd gorau.
Mae theatr, cerddoriaeth bop a rap yn gwrthdaro yn y cynhyrchiad Cymraeg hwn sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth.
Mae’n bryd i Alys ddechrau byw ei bywyd gorau. Ond caiff ei chaethiwo mewn hen hunlle’ cyfarwydd, anghyfarwydd.
All hi goncro ei hofnau? All hi fod yr Alys y mae hi eisiau bod?
Mae Ynys Alys yn archwilio pwy yda ni mewn adegau o newid a’r hyn ‘da ni wir yn gobeithio dal gafael arno mewn byd newydd.
Yn teithio rhwng 17 Mawrth a 9 Ebrill, fydd Ynys Alys yn perfformio ym Mangor, Pwllheli, Rhosllannerchrugog, Aberystwyth, Caernarfon, Llanelli a Caerdydd.
Pan dwi'n deud WOW, dwi'n golygu WOW!RHIAN MAIR JONES, STIWDIO GYDA NIA ROBERTS, BBC RADIO CYMRU
ADNODDAU
HYGYRCHEDD
Bydd bob perfformiad gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg.
Ar gyfer dewis eich seti, nodwch y bydd y sgrin capsiynau wedi'i leoli yng nghanol y set.
HYD Y SIOE
Tua 80 munud.
Pecyn Gwybodaeth Ynys Alys
Mae'n fwy na' drama. Mae'n brofiad.RHIAN MAIR JONES, STIWDIO GYDA NIA ROBERTS, BBC RADIO CYMRU
EP Ynys Alys allan rŵan.
Wyddoch chi fod Ynys Alys yn EP hefyd?
CAST
Becca Naiga, Fflur Medi Owen a Valmai Jones.
TÎM CREADIGOL
Cyfarwyddwr: Gethin Evans
Dramodydd: Gareth Evans-Jones
Cyfansoddi + Lyrics: Casi Wyn a Lemarl Freckleton
Dylunio + Chynhyrchu Sain: Alexander Comana
Cyfarwyddwr Cyswllt: Hannah McPake
Cynllunydd Set: Jenny Hall, Crafted Space
Cynllunydd Gwisgoedd: Rhi Matthews a Angharad Matthews
Cynllunydd Goleuo + Mapio: Ceri James
Cyfarwyddwr Ffilm: Gruff Lynch
Ffilm: Dafydd Hughes
DELWEDDAU
Dylunwyd gan The Noctown Crew
PARTNER
Gyda chefnogaeth Pontio.