Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!
Ffenest recriwtio Cwmni Ifanc ar agor!
Ymuna efo Cwmni Ifanc Frân Wen (#CIFW) i greu theatr sy’n jysd neud sense i CHDI.
Mae 'na ddau grŵp sy'n cyfarfod yn wythnosol. Mae #CFIW 1 (blynyddoedd 8 - 10) yn cyfarfod ar ddydd Mawrth a #CIFW 2 (blynyddoedd 11 - 13) ar ddydd Iau.
CWMNI IFANC 1
[BLWYDDYN 8 - 10]
Pwy?
Unrhywun o flwyddyn 8, 9 neu 10 o Ogledd Orllewin Cymru sydd hefo diddordeb mewn creu cynhyrchiadau byw cyffrous.
Be’?
Mi fyddi di’n cymryd rhan mewn gweithdai wythnosol i archwilio a datblygu dy sgiliau creu, o berfformio a sgwennu, i greu cerddoriaeth, elfennau gweledol, a chynnwys digidol.
Mae theatr yn lot fwy na actio ar lwyfan. ‘Da ni angen dylunwyr, technegwyr, cerddorion, sgwennwyr, dylunwyr goleuo a mwy er mwyn creu cynhyrchiadau.
Mi fyddi di yn defnyddio’r sgiliau yma i weithio hefo’n artistiaid anhygoel ni i greu cynhyrchiad newydd fydd yn cael ei berfformio yn ystod mis Ebrill 2023.
Pryd?
Mae ffenest recriwtio 2022/23 yn cau ddydd Sul, 18 Medi.
Bydd #CIFW 1 yn cyfarfod yn wythnosol bob dydd Mawrth o 20 Medi, a’r perfformiadau byw yn digwydd yn ystod mis Ebrill 2023.
Sud?
Cofrestra yn fa’ma - mae o'n hawdd, ac yn rhad ac am ddim i ymuno.
CWMNI IFANC 2
[BLWYDDYN 11 - 13]
Yn debyg i #CIFW 1, ond bydd y criw yma hefyd yn chwara' rhan allweddol yn ein rhaglen artistig.
Pwy?
Rhywun o flwyddyn 11, 12, neu 13, o Ogledd Orllewin Cymru sydd hefo diddordeb mewn creu cynyrchiadau byw cyffrous.
Be?
Mi fyddi di’n cymryd rhan mewn gweithdai wythnosol i archwilio a datblygu dy sgiliau creu, ac mi fyddi di’n helpu ni i ddatblygu ein rhaglen artistig.
Mae theatr yn lot fwy na actio ar lwyfan. ‘Da ni angen dylunwyr, technegwyr, cerddorion, sgwennwyr, dylunwyr goleuo a mwy er mwyn creu cynhyrchiad!!
Mi fyddi di wedyn yn defnyddio’r sgiliau yma i weithio hefo artistiaid anhygoel i greu cynhyrchiad epig yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 2023.
Pryd?
Mae ffenest recriwtio 2022/23 yn cau ddydd Sul 18 Medi.
Bydd #CIFW yn cyfarfod yn wythnosol bob ddydd Iau o 22 Medi, gyda’r perfformiad byw yn digwydd yn ystod mis Awst 2023.
Sud?
Cofrestra fa’ma - mae o'n hawdd, ac yn rhad ac am ddim i ymuno.
BWRSARIAETH #CIFW
‘Da ni ddim isho rhwystrau i bobl ifanc sydd isho ymuno hefo #CIFW - dyna pam mae ‘na fwrsariaeth ar gael i alluogi pobl ifanc a theuluoedd sydd angen cefnogaeth ychwanegol i gymryd rhan. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
CEFNOGI BWRSARIAETH
Diddordeb mewn cefnogi bwrsariaeth?
Ewch i'n tudalen cefnogwch ni i ddarganfod sut mae modd i chi gefnogi person ifanc i ymuno hefo #CIFW.