Camwch mewn i brofiadau cyntaf pobl ifanc.
Mewn Datblygiad.
Drwy’r amser, am byth.
Theatr amlddisgyblaethol uchelgeisiol gan Cwmniu Ifanc Frân Wen reodd yn dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.
Fe wnaeth y criw ifanc berchnogi’r siop yng nghanol Bangor am 3 wythnos ond roedd y gwaith yn benllanw o 12 mis o weithio gyda Frân Wen.
Roedd Mewn Datblygiad yw archwiliad Cwmni Ifanc Frân Wen o’r camau cyntaf enfawr mae pobl ifanc yn eu cymryd, y profiadau cyntaf sy’n ein diffinio a’r disgwyliadau a ddaw gyda hynny.
Fe wnaeth y grŵp ifanc, gyda chefnogaeth artistiaid proffesiynol, gymryd drosodd siop yng Nghanolfan Siopa Deiniol Bangor i greu gofod roedd yn archwilio a rhannu drwy fideo, cerddoriaeth, ‘spoken word’ a chelf weledol.
Gan weithio gyda’r artist gweledol Rhys Grail, y cerddor Ifan Pritchard a’r awdur Mared Llywelyn, roedd y bobl ifanc wedi mynd i’r afael â materion fel y pwysau a’r disgwyliad ar bobl ifanc heddiw, beth yw’r diffiniad o berson ifanc arferol a sut mae’n teimlo i fod yn berson ifanc heddiw?