Baner Prog23
24.03.23

Cyhoeddi rhaglen 2023

Cyflwyno theatr Cymraeg beiddgar a bythgofiadwy efo B fawr.

Llwyfannu sioe gerdd iaith Gymraeg epig a chyfoes.

Taflu popeth ar y ddaear at ŵyl ddiwylliannol fwya’ Cymru.

Teithio gwaith newydd sbon gan ein lleisiau newydd mwya’ cyffrous - yn syth o'n rhaglen datblygu artistiaid.

Tiwnio mewn i freuddwydion ein Cwmni Ifanc rhyfeddol.

O lwyfan theatr fwya’ Cymru i’n gŵyl ddiwylliannol fwya’. O greadigrwydd rhyfeddol ein Cwmni Ifanc i uchelgais ac egni eithriadol gwneuthurwyr theatr Cymru.

Ymunwch â ni am flwyddyn fythgofiadwy. Ble bynnag y byddwn.

Branwen: Dadeni
Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes. Cyd-gynhyrchiad â Chanolfan Mileniwm Cymru. Tachwedd 2023.

Popeth ar y Ddaear
Am y tro cynta’ erioed - ac am un noson yn unig - bydd Maes B yn cael ei drawsnewid yn lwyfan theatr byw. Cyd-gynhyrchiad â Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Awst 2023.

Imrie
Drama ffantasi newydd i oedolion ifanc am obaith a dewrder. Cyd-gynhyrchiad â Theatr y Sherman. Mai 2023.

15ish
Wedi'i greu a'i berfformio gan ein Cwmni Ifanc, mae 15ish yn dathlu harddwch pob eiliad o fywyd wrth chwilio am hapusrwydd ac atebion. Mai 2023.