Baner
13.05.25

Penwythnosau Stiwdio Lles

Dewch i brofi penwythnos llawn creadigrwydd, cyfeillgarwch a lles yn Y Stiwdio Lles.

Mae’r sesiynau creadigol efo cerddorion, artistiaid, ‘sgwennwyr a pherfformwyr wedi eu cynllunio i helpu ddelio efo gorbryder, diffyg hyder ac unigrwydd.

Mae’r penwythnosau yn rhan o brosiect Y Stiwdio Lles sy’n cynnig gofod croesawgar a diogel i oedolion ifanc rhwng 18-30 oed gymryd rhan mewn sesiynau creadigol.

Deuddydd cyfan o weithgareddau

Bydd y penwythnosau yn cael eu hwyluso gan yr artistiaid proffesiynol canlynol: Casi Wyn , Mirain Fflur, Robin Edwards, Mari Gwent ac Elgan Rhys.

Pa bryd mae’n digwydd?

14-15/06/25Sad - Sul10am - 3pmgyda Casi, Robin, Mari + Elgan
28-29/06/25Sad - Sul10am - 3pmgyda Robin, Mari, Mirain + Elgan

Yn lle?

Mae’r sesiynau yn anffurfiol ac am ddim ac yn digwydd yng nghartref Frân Wen yn Nyth, Ffordd Garth, Bangor.

Sut i gofrestru?

Cliciwch ar y linc yma i gofrestru

Eisiau gwybod mwy?

Os hoffet sgwrs am y sesiynau neu os am ymweld â Nyth o flaen llaw, cysyllta efo Elgan drwy:

☎️ 01248 715 048

📧 elgan@franwen.com

📍 neu galwa heibio Nyth am sgwrs!

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y cyfle hwn. Wrth gofrestru, bydd gennyt ti gyfle i nodi unrhyw anghenion mynediad.

Bydd y sesiynau yn cael eu rhedeg yn ddwyieithog, yn Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Y Stiwdio Lles yn bartneriaeth rhwng Frân Wen a Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth gan Meddygfa Bodnant Bangor ac Adran Llesiant Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Yr artistiaid

Robin Edwards

Robin Edwards

Mae Robin yn gynhyrchydd cerddoriaeth electroneg, ac artist sain.

Mae o'n rhyddhau cerddoriaeth electroneg odan yr enw R.Seiliog. Yn cydweithio gyda’r BFI ar sgoriio ffilmiau a phrosiectau animeiddio; yn cyfansoddi i weithiau dawns gyfoes, theatr, a’n dylunio sain i dechnoleg.

Yn ddiweddar mae wedi bod yn cydweithio â gwyddonwyr Helmholtz ar brosiect ymchwil hinsawdd bolar ac morwrol - yn cyfansoddi gyda recordiadau amgylcheddol o’r Arctig.

Mirain Fflur

Mirain Fflur

Mae Mirain Fflur yn actor aml gyfrwng o Nefyn. Mae hi wedi perfformio gyda Frân Wen, National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru, Bara Caws, Sky Arts, a Dundee Rep i enwi dim ond rhai. Derbyniodd ei hyfforddiant yn RADA gan gwblhau MA mewn Actio a Dyfeisio.

Mae celf yn rhan annatod ohoni, ac mae’n caru adeiladu bydoedd synhwyrol. Ar hyn o bryd mae wrthi’n datblygu ei drama lwyfan lawn gyntaf Slaughtered. Yr hun sy’n ei gyrru yw pŵer straeon i ddathlu creadigrwydd, i ennyn empathi, ac i ddychmygu dyfodol sy’n ddewr ac yn ddisglair.

Mari Gwent

Mari Gwent

Mae Mari’n artist cymunedol aml-gyfrwng sy’n defnyddio cyfryngau cymysg i greu propiau, cerfluniau a murluniau tri dimensiwn. Mae’n cael ei hysbrydoli i ddatblygu syniadau wrth gydweithio’n greadigol gyda chymunedau o bob oed a chefndir.

Mae hi'n gwbl angerddol dros ddatblygu’r cysylltiad cryf sydd rhwng creadigrwydd a llesiant, o ganlyniad i weithio ar nifer o brosiectau celf er budd iechyd a lles unigolion a’u cymunedau.

Casi Wyn

Casi Wyn

Mae Casi yn gantores a chyfansoddwraig o Fangor. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2021 - 2023. Mae hi wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru, Sinfonia Cymru a chyd-gynhyrchiad diweddar rhwng Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Theatr Cymru.

Casi arweiniodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn 2024 a chyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi'r llynedd o’r enw Bro Prydferthwch - ac yn fwy diweddar, ei chasgliad personol o gerddi, Cariad Yw. Casi yw Cyfarwyddwr Creadigol a sefydlydd cylchgrawn Codi Pais.

Mwy am
Y Stiwdio Lles
Mwy