Template Fflat
10.06.22

Hyfforddiant gyda thal i artisitiaid

Cyfle arbennig i dderbyn diwrnod o hyfforddiant hefo thâl trwy bartneriaeth newydd rhwng Frân Wen a GISDA.

Mae'r hyfforddiant yn rhan o Nabod, prosiect newydd sy'n cynnig cyfleon amrywiol i artistiaid aml-gelfyddydol gydweithio gyda chwmni o bobl ifanc.

Fel cam cychwynnol i’r prosiect bydd y cwmni Cardboard Citizens yn darparu hyfforddiant yn seiliedig ar eu methodoleg llwyddiannus nhw fel sefydliad arborbyn yn y maes.

Bydd yn cynnig datblygiad proffesiynol gwych i artistiaid ac yn gyfle i rannu arfer dda gyda ni fel sefydliadau wrth i ni fynd ati i greu methodoleg sy’n addas ar gyfer anghenion pobl ifanc Gwynedd.

Hoffwn wahodd artistiaid i gymryd rhan yn yr hyfforddiant a gynhelir ar ddydd Llun, 11eg o Orffennaf (lleoliad yn ardal Caernarfon / Bangor, ac amser penodol i’w gadarnhau). Cynigir tâl o £100 (yn cynnwys costau) i chi fynychu’r hyfforddiant.

Plîs cysylltwch â Nia Hâf am sgwrs bellach.

Ariennir y bartneriaeth gan Plant mewn Angen a Chyngor Celfyddydau Cymru drwy Gronfa’r Loteri.