Nyth Fran Wen
12.08.25

Coroni blwyddyn arbennig i Nyth

Nyth yn cipio'r fedal aur Eisteddfod

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Nyth, ein cartref newydd, wedi coroni blwyddyn arbennig drwy ennill Medal Aur Nora Dunphy am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Takuya Oura a Hedydd Ioan (aelod bwrdd Frân Wen) yn derbyn y wobr
................

Mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf yn dilyn llwyddiant Nyth yn gynharach yn y flwyddyn yn ennill Gwobr MacEwen gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), sy'n dathlu pensaernïaeth er lles y cyhoedd.

Bu hefyd llwyddiant ysgubol i’r adeilad yng ngwobrau Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru yn ddiweddarach pan enillodd Nyth y gwobrau canlynol:

  • Adeilad Pensaernïaeth Cymru 2025

  • Gwobr Pensaernïaeth Cymru 2025

  • Cleient Pensaernïaeth Cymru 2025

  • Gwobr Cynaliadwyedd Pensaernïaeth Cymru 2025

  • Gwobr Dewi-Prys Thomas 2025

Rhoddwyd canmoliaeth uchel i drawsnewidiad yr hen eglwys Santes Fair ym Mangor dan

arweiniad y pensaer Takuya Oura o gwmni pensaernïol Manalo & White.

“Tarodd y pensaer gydbwysedd trwy ymateb yn hyderus i’r brîff gydag ymyriad sydd ddim yn cystadlu â phensaernïaeth wreiddiol yr eglwys,” meddai Mike Worthington, beirniad Gwobr MacEwen.

Y pensaer Takuya Oura
................

Mae’r cydnabyddiaeth yn tynnu sylw at effaith y prosiect fel adeilad diwylliannol a phensaernïol o bwys.

Mae Nyth wedi creu argraff fawr ar artistiaid, pobl ifanc a’r gymuned ers agor ei ddrysau yn 2024 ac wedi llwyddo i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau fel gofod gwirioneddol gynhwysol sy’n annog arloesedd creadigol a phrosesau cydweithredol cyffrous,” meddai Nia Jones o Frân Wen.

“Yn ei flwyddyn gyntaf yn unig mae 15,916 wedi camu drwy’r drysau sy’n wych – ac mae'n brawf o'r angen am ganolfan creadigol o’r math yng Ngogledd Orllewin Cymru.”

Dywedodd Takuya Oura: “Roedd dylunio’r prosiect yn heriol, gan fod yn rhaid i ni gyrraedd anghenion Frân Wen a’u dymuniad am adeilad a oedd yn hygyrch i bawb.

“Ond cafodd yr heriau hynny eu hateb a’u datrys, ac rydym yn hynod hapus gyda’r gwaith gorffenedig ac yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hon yn yr Eisteddfod Genedlaethol.”

Adeiladu set Olion yn y Stiwdio
................