Galwad artistiaid Theatr Unnos Steddfod '26
Chwilio am artistiaid i'r her 24 awr
10 mlynedd yn ddiweddarach a mae Theatr Unnos yn ôl yn ’Steddfod. Ffansi cymryd rhan?
Dyma’ch lle chi i chwarae. Yn ’sgwennwr, cerddor, cynllunydd, perfformiwr, dawnsiwr. 'Da ni angen chi!
- Dyddiadau ac amseroedd: 1pm dydd Mercher, 5 Awst - 9pm dydd Iau, 6 Awst (Gorffwys opsiynol rhwng 12am ac 8am 6 Awst - ond mae Caffi Maes B ar gael dros nos).
- Lleoliad: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llantwd, yng nghanol gogledd Sir Benfro
- Tâl: £400 (i gynnwys costau teithio a llety pe baech yn penderfynu gorffwys!)
Beth yw Theatr Unnos?
Dychmygwch gyfuniad o bŵt camp creadigol a ‘sleep over’ artistig.
Mae Theatr Unnos yn dod â chrëwyr theatr, artistiaid a pherfformwyr at ei gilydd. Dim paratoi. Dim cynllun. Dim ond 24 awr o greu gonest, greddfol.
Byddwch yn derbyn her. Ac wedyn? Creu rhywbeth. Yn sydyn.
Byddwch yn rhannu’ch darn 30 munud o hyd gyda chynulleidfa mewn noson braf ac egnïol yng Nghaffi Maes B ar faes yr Eisteddfod.
Y rheolau
Dim sgriptiau parod. Dim ond greddf, ymddiriedaeth, anhrefn a chreadigrwydd.
Cymerwch risg. Cefnogwch eich gilydd. Crewch lanast gogoneddus. Synwch eich hun. Dydy hyn ddim am berffeithrwydd, ond am bosibiliadau. Dim beirniadu. Dim ond mwynhau
Mae Theatr Unnos yn mynd â syniadau yn ôl at y gwreiddyn, y sbarc, yr eiliad ryfedd, rhyfeddol cyn i’r cynllun ddechrau. Mewn byd o ‘deadlines’ a ffurflenni grant, dyma gyfle i fentro a bwrw iddi.
Dewch i greu rhywbeth bythgofiadwy. Gyda’n gilydd.
Sut i ymgeisio?
I ymgeisio i gymryd rhan cysylltwch â ni ar post@franwen.com erbyn 10 Gorffennaf yn nodi mewn unrhyw ffurf greadigol beth sydd yn eich cyffroi am y cyfle yma.
Mae’r cyfle yn agored i nifer cyfyngedig o artistiaid.
Bydd y prosiect yn digwydd drwy Gymraeg a dan ni’n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg newydd, gan gynnig cefnogaeth fel bo’r angen.