Pay Dd6
02.08.16

Theatr Unnos

Screen Shot 2016-07-22 at 11.28.52Bydd Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn cael ei thrawsnewid yn stiwdio gynhyrchu nos Iau (4ydd Awst) yma ar gyfer cynhyrchiad theatr arbennig iawn.Bwriad cwmni theatr Frân Wen yw creu darn o theatr newydd mewn un noson gyda chriw o artistiaid mwya’ blaenllaw Cymru. Bydd y darn theatrig yn cael ei berfformio yn Theatr y Maes am 12pm ar ddydd Gwener (5 Awst).Artistiaid Theatr Unnos fydd Eddie Ladd, Iwan Fôn, Mirain Fflur, Gruff Ab Arwel, Nico Dafydd, Iola Ynyr a Gwennan Mair Jones."Rydym yn annog ymwelwyr yr Eisteddfod i gynnig syniadau i sbarduno'r tîm artistig drwy bostio awgrymiadau ym mlwch postio y drws melyn amlwg yng Nghaffi'r Theatrau," meddai Iola Ynyr, cyfarwyddwr artistig Frân Wen."Bydd y thema/pwnc/syniad yn cael ei dynnu allan o het am 5:30pm yng Ngahffi'r Theatrau."Y gobaith yw creu darn o theatr mewn llai na 20 awr fydd yn gwthio ffiniau, yn herio o bosib, ond yn fwy na hynny yn berthnasol i'r gynulleidfa.""Hoffwn ddiolch i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am fentro i'r annisgwyl gyda'r prosiect hwn, ac i BBC Radio Cymru am ei gefnogaeth gan i'r cysyniad o Theatr Unnos ddeillio o lwyddiant Sesiwn Unnos.""Mae gennym amrywiaeth o artistiaid gwych - o'r coreograffydd cyfoes Eddie Ladd a'r perfformiwr Iwan Fôn, sy'n prysur gwneud enw iddo'i hun ar lwyfannau Cymru, i'r cyfansoddwr arbrofol Gruff ab Arwel a'r artist celfyddydol Mirain Fflur."Rydym i gyd fel tîm yn edrych ymlaen yn eiddgar i ymateb yn theatrig i gynigion y cyhoedd - a chreu darn gwirioneddol gyffrous," ychwanegodd Iola.*Bydd posib dilyn taith creu, cynhyrchu a llwyfannu Theatr Unnos drwy Twitter ac Instagram (#TheatrUnnos), Facebook a bydd y llwyfaniad yn cael ei ddarlledu yn fyw ar Periscope.*