Olion III Baner
08.08.25

Diweddglo Olion

Pennod olaf trioleg Olion i'w ddarlledu ar Am

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd pennod olaf trioleg Olion yn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf ddydd Mercher nesaf, 13 Awst 2025 ar Am, y platfform digidol sy'n dathlu celfyddydau a diwylliant Cymru.

Mae'r myth modern yma, sydd wedi'i ysbrydoli gan chwedl Arianrhod o'r Mabinogi, wedi datblygu mewn tair rhan:

Rhan I: Arianrhod
Profiad theatr byw ar lwyfan Pontio, Bangor, rhwng 20–28 Medi 2024.

Rhan II: Yr Isfyd
Perfformiad theatr byw, safle-benodol ar draws strydoedd Bangor ar 28 Medi 2024.

Rhan III: Y Fam
Ffilm fer yw epilog y drioleg, sy'n cynnwys elfennau byw o rhan 1 a 2, ac sy’n dilyn stori teulu cyffredin ym Mangor. Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ar-lein ar 13 Awst 2025.

Cychwynnod Olion ar y llwyfan, cyn mynd allan i'r strydoedd Bangor, a rŵan rydyn ni’n gorffen y daith ar eich sgriniau. Mae’r bennod olaf yn dod â’r tri byd at ei gilydd mewn darn pwerus a gweledol.
Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen

Mae'r drioleg, a ddatblygwyd dan gyfarwyddyd creadigol Angharad Elen, Anthony Matsena, Marc Rees a Gethin Evans - gyda chefnogaeth gan GISDA , Pontio a Storiel - wedi ailddiffinio ffiniau adrodd straeon theatrig trwy gyfuno cyfryngau aml-fformat a naratif trochol.

Am yw'r platfform perffaith ar gyfer diweddglo Olion. Y cyntaf o'r fath, mae o'n ofod digidol dwyieithog, mynediad agored ar gyfer archwilio cyfoeth diwylliant Cymru, o gerddoriaeth a theatr i ffilm, celf a llenyddiaeth.