Cwmni Ifanc: Sgwennu
Dewch i ddarganfod cyfleoedd newydd tu hwnt i’r llwyfan
Rydym yn falch i gyhoeddi cyfleodd newydd i bobl ifanc archwilio byd theatr i ffwrdd o oleuadau'r llwyfan.
Os ydych chi am ddatblygu eich llais creadigol neu'n awchu i ddysgu mwy am y byd cefn llwyfan, dyma'r cyfle perffaith i chi:
Mae Cwmni Ifanc: Sgwennu yn gyfle arbennig i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed ddatblygu eu hunain fel awduron theatr y dyfodol.
Mae Cwmni Ifanc: Tech yn gyfle gwych i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed i ddatblygu eu hunain fel arbenigwyr cefn llwyfan y theatr a chael cyfle i weithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol sy’n rhan o raglen artistig y cwmni.
Mae’r ddwy raglen yn cynnig mentora, hyfforddiant, profiad ymarferol, datblygu sgiliau a mwy!
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond y brwdfrydedd i ddysgu a chreu.
Barod i gymryd rhan?
Cwmni Ifanc: Sgwennu
Cwmni Ifanc: Tech