Baner Cyfle

Cyfleon

Cyfleon arbennig i weithio ar ein rhaglen artistig yn 2023

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi cynigion arbennig i weithio gyda ni a phartneriaid ein rhaglen artistig yn 2023 sef Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Cyfleon ar gyfer:

  • Cyfarwyddwr Cynorthwyol profiadol

  • Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar ddechrau gyrfa

  • 6 Artist Cysgodol i artistiaid rhwng 18 a 25 oed.

Dyddiad cau: 17/02/23

Cyfarwyddwr Cynorthwyol profiadol: Sioe gerdd

Cyd-gynhyrchiad gyda Chanolfan Mileniwm Cymru

Lleoliad: Ymarferion ym Mangor a Chaerdydd

Sioe gerdd gyfoes a ffrwydrol gan Seiriol Davies, Elgan Rhys a Hanna Jarman fydd yn agor ar lwyfan Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd 2023 cyn teithio Cymru.

Manylion y broses ymgeisio

....................

Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar ddechrau gyrfa: Imrie

Cyd-gynhyrchiad gyda Theatr y Sherman

Lleoliad: Ymarferion yng Nghaerdydd

Drama ffantasi newydd gan Nia Morais sy’n stori hudolus am obaith a dewrder fydd yn agor yn y Theatr y Sherman ym mis Mai 2023 cyn teithio Cymru.

Manylion y broses ymgeisio

....................

6 x Artist Cysgodol: Popeth ar y Ddaear

Cyd-gynhyrchiad gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru

Lleoliad: Bangor a Phen Llŷn

Cyfle gwych i 6 berson ifanc sydd a diddrodeb yn y meysydd creadigol canlynol cyfarwyddo, sain, cerddoriaeth, cynllunio, goleuo neu coreograffi. Dewch i gael blas cyntaf ar broses greadigol proffesiynol. Mae Popeth ar y Ddaear yn gynhyrchiad safle benodol uchelgeisiol ar raddfa fawr.

Manylion y broses ymgeisio

....................

DYDDIADAU ALLWEDDOL

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 17 Chwefror 2023

Anfonwch eich ceisiadau at: post@franwen.com

Gweler y cyfleon unigol am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r broses ymgeisio a’r telerau. Mae'r broses recriwtio yn cael ei arwain gan Frân Wen ar y cyd â phartneriaid y cynyrchiadau.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y cyfleon yma yna cysylltwch â Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen – gethin@franwen.com neu Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen - nia@franwen.com

....................

MANYLION YCHWANEGOL

Rydym yn croesawu lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli yng Nghymru – boed o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn byw ag anableddau/salwch hirdymor, neu o gefndiroedd incwm isel. Rydym hefyd yn gwneud pob ymdrech i gefnogi rhieni a gofalwyr o fewn y diwydiant.

Os oes unrhywbeth yn eich rhwystro rhag ymgeisio cysylltwch â nia@franwen.com i drafod ymhellach.

Sut i wneud cais a manylion ychwnegol

pdf, 1.243 MB