Sioe gerdd newydd mewn datblygiad gan Mared Williams
Wedi’i hysbrydoli yn dilyn cau ei ysgol gynradd Mared, Ysgol Llannefydd, mae Y Pentref yn dilyn Beca, merch ifanc sy'n symud yn ôl i bentref sydd ar y dibyn. Mae'r ysgol yn cau, mae ei brawd ar goll, ac mae'r gymuned ar chwâl.
Gyda sgôr gwerin-bop ac yn llawn hiwmor, calon ac ysbryd gwrthryfelgar, mae Y Pentref yn gofyn: beth sy'n digwydd pan fydd calon y pentref yn dirywio - all cymuned ailadeiladu heb lynu i’w orffennol?
Dychmyga Schitt’s Creek yng Ngogledd Cymru; pwyllgor mewn anrhefn llwyr, rhamant mewn llefydd annisgwyl, a brwydr i achub mwy na brics a mortar. Nid stori leol yn unig mo hon, ond atgof amserol o’r hyn sydd werth dal gafael arno - a’r adegau pan fo’n amser i ollwng gafael.