Her creu theatr mewn 24 awr
10 mlynedd yn ddiweddarach a mae Theatr Unnos yn ôl yn ’Steddfod. Ffansi cymryd rhan?
Dyma’ch lle chi i chwarae. Yn ’sgwennwr, cerddor, cynllunydd, perfformiwr, dawnsiwr. 'Da ni angen chi!
- Dyddiadau ac amseroedd: 1pm dydd Mercher, 5 Awst - 9pm dydd Iau, 6 Awst (Gorffwys opsiynol rhwng 12am ac 8am 6 Awst - ond mae Caffi Maes B ar gael dros nos).
- Lleoliad: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llantwd, yng nghanol gogledd Sir Benfro.
- Tâl: £400 (i gynnwys costau teithio a llety pe baech yn penderfynu gorffwys!)
Beth yw Theatr Unnos?
Dychmygwch gyfuniad o bŵt camp creadigol a ‘sleep over’ artistig.
Mae Theatr Unnos yn dod â chrëwyr theatr, artistiaid a pherfformwyr at ei gilydd. Dim paratoi. Dim cynllun. Dim ond 24 awr o greu gonest, greddfol.
Byddwch yn derbyn her. Ac wedyn? Creu rhywbeth. Yn sydyn.
Byddwch yn rhannu’ch darn 30 munud o hyd gyda chynulleidfa mewn noson braf ac egnïol yng Nghaffi Maes B ar faes yr Eisteddfod.
Y rheolau
Dim sgriptiau parod. Dim ond greddf, ymddiriedaeth, anhrefn a chreadigrwydd.
Cymerwch risg. Cefnogwch eich gilydd. Crewch lanast gogoneddus. Synwch eich hun. Dydy hyn ddim am berffeithrwydd - ond am bosibiliadau. Dim beirniadu. Dim ond mwynhau
Mae Theatr Unnos yn mynd â syniadau yn ôl at y gwreiddyn, y sbarc, yr eiliad ryfedd, rhyfeddol cyn i’r cynllun ddechrau. Mewn byd o ‘deadlines’ a ffurflenni grant, dyma gyfle i fentro a bwrw iddi.
Dewch i greu rhywbeth bythgofiadwy. Gyda’n gilydd.
Sut i ymgeisio?
I ymgeisio i gymryd rhan cysylltwch â ni ar post@franwen.com erbyn 10 Gorffennaf yn nodi mewn unrhyw ffurf greadigol beth sydd yn eich cyffroi am y cyfle yma.
Mae’r cyfle yn agored i nifer cyfyngedig o artistiaid.
Bydd y prosiect yn digwydd drwy Gymraeg a dan ni’n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg newydd, gan gynnig cefnogaeth fel bo’r angen.
Traddodiad Unnos
Roedd tŷ unnos (tŷ un nos) yn hen draddodiad Cymreig lle gallai rhywun hawlio darn o dir comin drwy adeiladu tŷ bach arno dros nos. Os oedd y tŷ yn sefyll erbyn amser codiad haul, dywedid fod y tir yn dod yn eiddo iddyn nhw. Mwy o wybodaeth am draddodiad Unnos
Llun: Adeilad tŷ unnos wedi difrodi (ffynhonnell: Wikipedia)