Annog pobl ifanc i ddefnyddio'r celfyddydau fel cyfrwng mynegiant.
Archwilio llesiant drwy'r celfyddydau
Mae Fi di FI yn brosiect arloesol sy'n cynnig cyfle i ysgolion gydweithio â thîm o artistiaid aml-gyfrwng dan arweiniad Frân Wen i archwilio llesiant drwy gyfrwng y celfyddydau.
Addasu i anghenion chi
Gellir addasu'r prosiect i ymateb i nghenion penodol ysgolion a phobl ifanc. Mae prosiectau yn y gorffennol wedi ymdrin ag ystod eang o themâu gan gynnwys homoffobia, trais yn y cartref, materion iechyd meddwl penodol megis hunan anafu a dathlu hunaniaeth a'r iaith Gymraeg.
Beth bynnag fo'r thema, hanfod y prosiect yw hyrwyddo'r defnydd o'r celfyddydau fel cyfrwng mynegiant a thrwy hynny cynnig cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau mewn amryw o feysydd celfyddydol, gwella hyder a dealltwriaeth o hunan lês, annog empathi ymysg cyfoedion a mwynhau, adnabod a dathlu llwyddiant.
Dyma rhai o ddigwyddiadau Fi Di Fi diweddaraf.
Yn 2022 aeth Fi Di Fi i Ysgol Brynrefail, Ysgol Pendalar ac Ysgol David Hughes.
Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.