Sgript: Dynolwaith
Cyhoeddir Dynolwaith, y bedwaredd yn y gyfres Sgriptiau Stampus sy’n rhoi platfform i ddramau cyfoes cyfrwng Cymraeg, gan Cyhoeddiadau'r Stamp.
Dynolwaith yw drama lwyfan lawn gyntaf Leo Drayton.
Wrth inni ddilyn bywyd dyn traws ifanc am bum mlynedd ffurfiannol yn ei arddegau hwyr, dyma'r byd trwy lygaid Jac, a Jac trwy lygaid y byd. Rhwng y stori ingol a llais barddonol, egnïol, amlhaenog yr awdur, dyma ddarn o lenyddiaeth sy'n byrlymu, heb golli dim o ddwyster a phwysigrwydd y themâu sydd dan sylw.
Gyda’r sgript yn ei gyfanrwydd, ffotograffau trawiadol o’r sioe fyw gan Craig Fuller, a rhagair gan gyfarwyddwr a chyfarwyddydd cynorthwyol y cynhyrchiad, Gethin Evans a Kayley Roberts, dyma gyfrol ddeniadol, hawdd ei darllen, sy’n rhoi lle i’r ddrama fel ffurf lenyddol ar bapur ac a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli eraill i’w pherfformio, neu berfformio detholiadau ohoni, yn y dyfodol.
Sgriptiau Stampus 04: Dynolwaith
Leo Drayton / Cyhoeddiadau’r Stamp, Frân Wen a Theatr y Sherman 2025
ISBN 978-1-0682167-5-6