Screenshot 2022 07 14 at 14 58 51

Mewn Datblygiad

Camwch mewn i brofiadau cyntaf pobl ifanc.

Mewn Datblygiad.
Drwy’r amser, am byth.

Camwch mewn i fyd amlddisgyblaethol o brofiadau cyntaf pobl ifanc wrth i ni drawsnewid siop yng nghanol dinas Bangor.

Mewn Datblygiad yw archwiliad Cwmni Ifanc Frân Wen o’r camau cyntaf enfawr mae pobl ifanc yn eu cymryd, y profiadau cyntaf sy’n ein diffinio a’r disgwyliadau a ddaw gyda hynny.

Mae’r grŵp ifanc, gyda chefnogaeth artistiaid proffesiynol, wedi cymryd drosodd y siop yng Nghanolfan Siopa Deiniol Bangor i greu gofod sy’n archwilio a rhannu drwy fideo, cerddoriaeth, ‘spoken word’ a chelf weledol.

Gan weithio gyda’r artist gweledol Rhys Grail, y cerddor Ifan Pritchard a’r awdur Mared Llywelyn, mae’r bobl ifanc wedi mynd i’r afael â materion fel y pwysau a’r disgwyliad ar bobl ifanc heddiw, beth yw’r diffiniad o berson ifanc arferol a sut mae’n teimlo i fod yn berson ifanc heddiw?

Mae Cwmni Ifanc Frân Wen yn creu theatr amlddisgyblaethol uchelgeisiol sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw. Mae’r criw ifanc wedi perchnogi’r siop ers 3 wythnos ond mae’r gwaith yn benllanw o 12 mis o weithio gyda Frân Wen.

Yn lansio dydd Sadwrn 28 Awst, bydd Mewn Datblygiad ar agor i ymwelwyr am 4 wythnos.

Dewch draw!


Archebu Tocynnau