Lliwia Baner

Lliwia

Dychmygwch fyd heb liw...

Sioe hudolus a bythgofiadwy i blant bach dan 7 oed a'u teuluoedd.

Cyfle unigryw i fwynhau cyfieithiad Cymraeg gan Angharad Tomos o White a enillodd wobr y Sioe Orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc un yr UK Theatre Awards.

Bywydau syml a threfnus sydd gan y ffrindiau yn Lliwia. Maen nhw'n byw mewn pabell wen, ac yn gofalu am y tai adar o'u cwmpas.

Pob dydd, mae'r ffrindiau'n sicrhau fod eu byd prydferth a threfnus yn parhau'n ddisglair a gwyn. Ond... beth yw hwn...? Lliw?

Coch... melyn... glas. Dydi’r ffrindiau erioed wedi gweld lliw - sut byddant yn ymdopi â'r newid byd?

Mae Lliwia yn gyd-cynhyrchiad gan Frân Wen a Pontio.

Eisiau tocyn?


Hyfrydwch llwyr beth bynnag fo'ch oedran.
The Times

Crëwyd White yn wreiddiol gan Andy Manley, a cafodd ei gynhyrchu gan Catherine Wheels.

CYFATHREBU

Mae’r cynhyrchiad trwy gyfrwng y Gymraeg ond prin iawn yw’r defnydd o sgript felly mae’n arbennig o addas a hygyrch ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc a dysgwyr. Darperir pecyn o eirfa defnyddiol o flaen llaw.

Bydd cymeriadau’r sioe hefyd yn defnyddio Makaton. Yn fwy syml i blant ifanc ac yn arbennig o addas i gefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, mae'r modd yma o gyfathrebu yn defnyddio cyfuniad o lais, ystumiau dwylo a symbolau.

PERFFORMIADAU BSL

Dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr - 10.30am, 12.30pm + 2.30pm.

OED

Dyma sioe arbennig i'r teulu oll, ond yn enwedig i blant bach rhwng 1 a 7 oed.

TOCYNNAU

Tocynnau ar gael yma.

Theatr i blant ifanc ar ei orau, dyma sioe hudolus o hyfryd sydd wedi cyffwrdd cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Archebu Tocynnau