Deian Loli Baner

Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf

Yr efeilliaid yn hedfan i fyd y theatr.

Da ni gyd yn gorfod tyfu i fyny rhywbryd. Neu ydan ni?

Mae hi’n ddiwrnod cyntaf Deian a Loli yn yr ysgol fawr!

Mae Deian wedi cyffroi’n lân ac ar ei draed ers cyn cŵn Caer - ond dydi Loli ddim isio mynd.

Ar ben bob dim, mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu dwyn nhw - er bod ei rhieni yn dadlau nad ydi ffrindiau dychmygol yn bod.

Mae Deian yn sylweddoli nad oes ganddo fawr o ddewis ond ymuno efo Loli i ddweud y gair hud, a rhewi eu rhieni - gan fynd ar drywydd y goriadau coll ar antur fwyaf eu bywydau.

A fyddan nhw’n llwyddo i ddod o hyd i’w ffrind dychmygol cyn iddo fo ddiflannu am byth? A oes peryg iddyn nhw golli eu pwerau hudol wrth dyfu i fyny?

Dewch i brofi sioe theatrig gyntaf Deian a Loli wrth i’r efeilliaid direidus deithio i ben draw dychymyg a thu hwnt.

TOCYNNAU

30/04/24 - 04/05/24PONTIO, BANGOR
09/05/24 - 11/05/24CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH
14/05/24 - 15/05/24THEATR Y PAFILIWN, Y RHYL
21/05/24 - 24/05/24Y LYRIC, CAERFYRDDIN
05/06/24 - 08/06/24
THEATR Y SHERMAN, CAERDYDD


ADNODDAU

Pecyn Creadigol Deian a Loli

pdf, 13.388 MB

Map Cymru Deian Loli
Newyddion
cast deian a loli
Mwy

Cast: Jack Thomas-Humphreys, Ifan Miners, Gweni Roberts, Casi Williams, Mali Tudno Jones, Rhian Blythe a Rhys Parry Jones.

Dramodydd: Manon Wyn Jones

Cynhyrchydd Creadigol: Angharad Elen

Cyfarwyddwyr: Gethin Evans a Martin Thomas

Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Cai Dyfan

Cyfansoddwr/Composer: Bethan Mai

Cynllunydd Sain: Sam Jones

Cynllunydd Goleuo: Ceri James

Cyfarwyddwr Symud: Rebecca Wilson

Gwneuthurwr a Goruchwyliwr Gwisgoedd: Llinos Griffiths Gough

Cyfarwyddwr Castio Plant ac Ymgynghorydd Stori: Martin Thomas

Is-gyfarwyddwr: Emma Mace

Cynhyrchir Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf gan Frân Wen mewn partneriaeth â Pontio gyda chefnogaeth Cwmni Da.

Taith Llawn

Pontio, Bangor

30 Ebrill 10am + 1pm
1 Mai 10am + 1pm
2 Mai 10am + 1pm
3 Mai 10am* + 6pm*
4 Mai 11am + 2pm

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

9 Mai 10am
10 Mai 10am + 6pm
11 Mai 11am*

Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl

14 Mai 10am* + 6pm*
15 Mai 10am

Y Lyric, Caerfyrddin

21 Mai 6pm
22 Mai 10am + 1pm
23 Mai 10am* + 6pm*
24 Mai 10am

Theatr y Sherman, Caerdydd

5 Mehefin 1pm
6 Mehefin 10.30am + 1pm
7 Mehefin 10.30am* + 5pm*
8 Mehefin 11am

* Perfformiadau BSL a Sain Disgrifiad

BSL + Sain ddisgrifiad

Bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSl) a sain ddisgrifiad (drwy wisgo clustffonau) ar gael yn y perfformiadau isod:

Pontio, Bangor

3 Mai 1pm
3 Mai 6pm

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

11 Mai 11am

Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl

14 Mai 10am a 6pm

Y Lyric, Caerfyrddin

23 Mai 10am a 6pm

Theatr y Sherman, Caerdydd

7 Mehefin 10.30am a 5pm

Canllaw Oedrawn

Mae Y Ribidirew Olaf yn sioe deulu ond wedi ei ddatblygu’n arbennig ar gyfer plant Blynyddoedd 1 i 6.

Siaradwyr Cymraeg newydd

Darperir cefnogaeth i siaradwyr Cymraeg newydd ym mhob perfformiad.