Deian Loli Baner
06.03.24

Dwbl Trwbl i Deian a Loli

Cyhoeddi dau set o Deian a Loli ar gyfer addasiad theatr cyntaf o’r ffenomenon deledu.

Mae pedwar actor ifanc o ogledd Cymru wedi eu henwi fel y ddau bâr o efeilliaid direidus fydd yn perfformio yn Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf.

Jack Thomas-Humphreys o Danygrisiau ac Ifan Miners o Benisarwaun sy’n rhannu rhan Deian gyda Gweni Roberts o Lithfaen a Casi Williams o Frynteg yn rhannu rhan Loli.

Bydd parau ifanc, Gweni a Jack a Casi ac Ifan, yn chwarae rhan y cymeriadau eiconig am yn ail trwy gydol y daith. Byddant yn ymddangos ar lwyfan am y tro cyntaf ym mis Ebrill fel rhan o daith i theatrau ledled Cymru.

TAITH LEDLED CYMRU

Pontio, Bangor 30 Ebrill - 04 Mai
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 09 - 11 Mai

Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl 14 - 15 Mai

Y Lyric, Caerfyrddin 21 - 24 Mai

Theatr y Sherman, Caerdydd 05 - 08 Mehefin

Mae Y Ribidirew Olaf yn digwydd ar ddiwrnod cynta’r efeilliaid yn yr ysgol uwchradd ond dydi Loli ddim eisiau mynd. Ar ben hynny mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu cuddio.

Does dim amdani ond dweud y gair hud - RIBIDIREW! - er mwyn rhewi eu rhieni a mynd ar drywydd y ffrind dychmygol.

PERFFORMIADAU I BAWB

Mae perfformiadau i ysgolion a pherfformiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ym mhob lleoliad.

Bydd perfformiad gyda Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a sain ddisgrifiad (drwy wisgo clustffonau) ar gael mewn perfformiad i ysgolion a pherfformiad cyhoeddus ym mhob lleoliad.

Cynhyrchir Deian a Loli - Y Ribidirew Olaf gan Frân Wen mewn partneriaeth â Pontio a chefnogaeth Cwmni Da sef cynhyrchwyr y gyfres deledu.

Mae tocynnau ar werth nawr.

LLuniau gan Kristina Banholzer.