Baner Wefan

Corn Gwlad

Sioe gerdd cwiar Gymraeg llawn gwychder

Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924. Mae’r bardd Prosser Rhys newydd ennill y Goron am ei gerdd sy’n sôn am ei berthynas rhywiol… efo dyn arall!

Sgandal ar y Maes!

Hyd yn oed wrth ei goroni, mae Archdderwydd yr Orsedd yn lladd ar ei ffordd o fyw budr, “di-Gymraeg”. Ni chafodd y gerdd erioed ei hailargraffu.

Mae Corn Gwlad, sy'n gyd-gynhyrchiad efo Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn ail-fyw’r seremoni dyngedfennol o 100 mlynedd yn ôl… ond efo ‘chydig bach mwy o deleportiaeth, ysbrydion erchyll, cynfasau ciwt, disgleirlwch a fferats!

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod eleni am noson ffraeth-wyllt llawn canu a dawnsio disgo cwiar, wrth i ni drio darganfod be’ yffach ydi’r busnes "Orsedd" ma!"

Cymerwch eich sedd. Ac ar ganiad y corn, byddwch yn fendigêd!

..................

Y BABELL LÊN

Nos Fawrth 6 Awst 7.30pm
Nos Fercher 7 Awst7.30pm
Nos Iau 8 Awst7.30pm
Nos Wener9 Awst7.30pm

Cynta' i'r felin ar y noson, am ddim i'r rhai sydd â thocyn Eisteddfod.


Cast: Lisa Angharad, Seiriol Davies, Carys Eleri, Nia Gandhi, Meilir Rhys Williams

Cerddoriaeth a geiriau: Seiriol Davies

Cyfarwyddwr: Gethin Evans

Goruchwyliwr Cerdd: Geraint Owen

Cyfarwyddwr Cerdd: Máth Roberts

Coreograffydd: Osian Meilir

5 Lisa
2 Seiriol
1 Carys Eleri
3 Nia
4 Meilir