Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!

15ish Baner Website 72dpi

15ish

Cynhyrchiad byw gan Gwmni Ifanc Frân Wen

Ma hi ‘di bod yn ddiwrnod rybish.

Oedolion yn haslo chdi am y dyfodol. Athrawon a phlant ysgol yn mynd ar nyrfs chdi. Yr unig beth tisho neud ydi suddo mewn i soffa Nain, a gwatchad teli.

A dyna Myfi.

Ma hi ‘di chael ei llyncu mewn i gêm ar teli vintage Nain. Ond, fel yn y byd go iawn, mae rheolau’r gêm yma’n amwys, yn aneglur ac yn debygol o newid ar ddisgresiwn y rhai sydd wrth y llyw.

Wrth iddi gael ei harwain drwy’r gêma llawn lliwia, yn teimlo’n go las, yn wyrdd o genfigennus, ac yn gweld coch, mae Myfi’n dysgu nad aur yw popeth melyn…

Wedi'i greu a'i berfformio gan ein Cwmni Ifanc, mae 15ish yn dathlu harddwch pob eiliad o fywyd wrth chwilio am hapusrwydd ac atebion.

📍 Nyth Bangor
🗓 Dydd Sul, 30 Ebrill 2023
Amser i’w gadarnhau


Crëwyd gan: Cwmni Ifanc Frân Wen gyda’r awdur Buddug Roberts

Cyfarwyddwr: Nia Hâf

Dylunydd: Efa Dyfan

Cyfansoddwr: Malan Fôn

Dylunio Graffeg: Aliss Curtis

Ffotograffiaeth: Kristina Banholzer

Archebu Tocynnau