Pay Dd6
06.06.18

Ysbrydoli balchder cymunedol

Cwmnïau theatr ac adeiladu yn cyfuno i ysbrydoli balchder pobl ifanc yn eu cymunedauProsiect Peulwys Fran WenMae Brenig Contruction, un o gwmnïau adeiladu sy’n tyfu gyflyma yng Nghymru, yn cyd-weithio â chwmni theatr Frân Wen i annog cydlyniant cymunedol yn Llysfaen, sir Conwy.Mae'r bartneriaeth anghonfensiynol rhwng y ddau gwmni o Ogledd Cymru yn gweld tîm o artistiaid proffesiynol yn gweithio ochr yn ochr â disgyblion o Ysgol Sŵn y Don er mwyn eu hannog i ddefnyddio'r celfyddydau i atgyfnerthu'r teimlad yn eu cymunedau.Yn Parêd Peulwys bydd disgyblion yr ysgol yn gweithio'n ddwys gyda'r artistiaid am 3 wythnos i ddylunio parêd carnifalaidd o amgylch ystâd Parc Peulwys. Mae'r tîm yn cynnwys yr artist cymunedol Mari Gwent, yr arbenigwr cerddoriaeth samba, Colin Daimond, a bydd artistiaid syrcas o gwmni Cimera yn ychwanegu at yr awyrgylch hwyliog.Bydd y prosiect yn cyd-fynd â datblygiad tai newydd Berth y Glud ar ystâd Parc Peulwys gan Brenig Construction a Chartrefi Conwy."Ni eisiau deall beth yw barn pobl ifanc am eu cartrefi a'r cymunedau mae nhw'n byw ynddynt, felly fyddwn yn trafod themâu fel cynhwysiad cymdeithasol, parch ac hunaniaeth drwy ddefnyddio'r celfyddydau," meddai Mari Morgan o Frân Wen.Meddai Mark Parry, Cyfarwyddwr Brenig Construction: "Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn fwy na chwmni brics a morter ac rydym wastad yn rhoi'r gymuned wrth wraidd ein rhaglenni gwella a datblygu. Mae gadael gwaddol yr un mor bwysig i Brenig Construction a Chartrefi Conwy."Prosiect Peulwys Fran Wen"Mae Parêd Peulwys yn cyfuno pobl o wahanol oedran a diddordebau ac yn galluogi bod addysgu yn gallu digwydd tu allan i waliau'r dosbarth, a bydd hyn yn helpu i gynnal balchder trigolion yn y lle maent yn byw," ychwanegodd Mark.Sefydlwyd partneriaeth Parêd Peulwys diolch i gefnogaeth gan Arts & Business Cymru fel rhan o'u rhaglen CultureStep."Mae'r prosiect hwn yn enghraifft da o'r manteision i bartneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol a busnes. Rydym yn falch iawn o gefnogi trwy ein rhaglen CultureStep," meddai Gwenno Angharad, Cyfarwyddwr Partneriaethau Arts & Business Cymru."Mae hi mor bwysig fod pobl ifanc yn falch o ble maent yn byw, ac yn rhan weithredol o'r gymuned."*Mae Parêd Peulwys yn cychwyn yn Ysgol Sŵn y Don am 2.45pm ar ddydd Gwener, 8fed o Fehefin. Mae'r parêd lanterni yn cylchu'r ystâd Peulwys cyn gorffen yn ôl yn y Neuadd Gymunedol am 3.30pm.*