'Da ni'n ôl!
Ein cynhyrchiad gyntaf ers Llyfr Glas Nebo yn 2020.
Mae Ynys Alys yn cychwyn ar ei daith genedlaethol yn Pontio Bangor nos Iau, 17 Mawrth 2022.
Ein cynhyrchiad gyntaf ers Llyfr Glas Nebo yn 2020, mae Ynys Alys yn dilyn merch ifanc a’i hannibyniaeth newydd wrth iddi adael ei chartref am y tro cyntaf.
Mae’r gerddoriaeth, sy’n gyfuniad o guriadau real a gonest, wedi ei gyfansoddi a’i berfformio’n rhithiol gan yr artist rap Lemarl Freckleton (BBC Introducing's Ones to Watch 2021) a’r artist pop Cymreig Casi Wyn.
Mae’r traciau’n gyfuniad o fydoedd a safbwyntiau gwahanol sy'n plethu rhwng y cymeriadau gyda'r nod o gyfleu eu gobeithion a’u hofnau o fewn y tracs.Casi Wyn
Yn camu ar lwyfan ar gyfer ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf mae Becca Naiga fel Alys, y ferch 18 oed sy'n ceisio dal y cyfan at ei gilydd wrth iddi lywio ei ffordd trwy fywyd annibynnol.
Mae Alys yn ceisio gwneud synnwyr o’i hun mewn byd sydd y tu hwnt i bob dealltwriaeth wrth iddi wynebu’r cwestiynau mawr am y pethau sy’n ei diffinio, ei hunaniaeth a’i pherthynas gyda’i ‘chartref’ newydd.
Valmai Jones a Fflur Medi Owen sy’n chwarae rhan y fam a merch sy’n brwydro dros ddyfodol y tŷ sydd wedi bod yn eu teulu ers cenedlaethau.
Mae’n bortread ffyrnig ac emosiynol o bwy ydyn ni mewn cyfnod o newid, a’r hyn rydyn ni’n gobeithio dal gafael arno wrth i ni ail-adeiladu ein byd.Gethin Evans, Cyfarwyddwr Ynys Alys