Pay Dd6
26.06.20

Tra'n Aros

‘Falla'ch bod chi wedi dod ar draws posts eitha' amwys ar ein ffrydiau Twitter ac Instagram wythnos yma - gan gynnwys 'drop' arbennig heno (nos Wener, 26/06).

Wedi eu rhyddhau o dan y teitl Tra'n Aros, datblygwyd cyfres o luniau a ffilm gan yr artistiaid ifanc Lauren Connelly a Hafwen Hibbard fel rhan o Raglen Datblygu Artistiaid Ifanc Frân Wen.Mae'r gyfres yn cofnod ac adlewyrchiad o fywyd a thaith pobl ifanc yn y cyfnod hunan-ynysu.Dywedodd Lauren, 18, o Gaerdydd: "Mae gwerthfawrogi ein teimladau yn neges bwysig yn Tra'n Aros - mae'r cyfnod yma wedi bod yn llethol i ni i gyd, llawn pryder ac ansicrwydd - ond mae'n iawn teimlo hynny!""Dydych chi ddim ar eich pen eich hun," ychwanegodd Hafwen. "Mae’r sefyllfa orfodedig yn anodd iawn i’w brosesu, yn enwedig pan 'dych chi bob amser yn ceisio cadw i fyny â phopeth sy'n digwydd yn y byd - ond mae'n bwysig cofio bod ffrind ddim ond FaceTime i ffwrdd."https://youtu.be/fc3P_O1Kd6IMae'r pâr yn ffrinidau ers cyfarfod ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd. Mae'r ddwy yn dilyn llwybrau celfyddydol yr Hydref hwn, gyda Hafwen yn mynd i American Academy of Dramatic Arts yn Los Angeles a Lauren i Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru Caerdydd."Rydyn ni bob amser wedi perfformio ochr yn ochr," meddai Lauren."Fe ddechreuon ni ddyfeisio gwaith ar gyfer Lefel-A ac ers gadael yr ysgol rydyn ni wedi mynd i'r afael â'r 'byd go iawn' gyda'r bwriad o greu gwaith ein hunain. Ond mae'r saib yma yng nghanol prysurdeb bywyd wedi rhoi amser i ni ganolbwyntio ar ein cyfeiriad artistig, ac mae Frân Wen wir wedi bod yn gefn i ni."Ein sesiynau ffrydio byw Cymanfa FW oedd y sbardun cychwynnol i Tra'n Aros."Fe wnaeth wylio’r sesiwn wneud i ni sylweddoli pa mor bwysig oedd parhau’n greadigol yn ystod amseroedd anghyffredin - a sut mae hynny’n caniatáu inni gysylltu â phobl ifanc eraill mewn cyfnod lle mae'n rhaid i bawb gadw ar wahân," meddai Hafwen.Daw cyfres Tra’n Aros yn syth ar ôl 120960, cynhyrchiad theatr fyw gan Gwmni Ifanc Frân Wen, yr wythnos ddiwethaf, "mae eto'n dystiolaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ifanc yng Nghymru heddiw," meddai ein Cyfarwyddwr Artistig, Gethin Evans."Yn Frân Wen rydym yn cefnogi artistiaid trwy drosglwyddo'r awenau, a chefnogi eu llais a'u proses unigryw - mae gan Lauren a Hafwen lawer i'w ddweud, 'dwi wedi dysgu llawer o wrando arnynt a'u gweld yn gwneud eu gwaith. Rwy'n edrych ymlaen i weld beth ddaw nesaf!"Cofiwch mae ein drws wastad ar agor ac mae'r sgrin wastad ymlaen i dderbyn eich negeseuon os hoffech dderbyn cefnogaeth gan Frân Wen.