Website Banner Baner
03.10.23

Dwy rôl newydd yn Frân Wen

'Da ni'n recriwtio ar gyfer dwy swydd llawn amser newydd - Pennaeth Ymgysylltu a Chynhyrchydd.

Eisiau sialens newydd?

Oes gen ti'r uchelgais a'r angerdd i chwarae rhan allweddol yn siapio ein dyfodol?

'Da ni'n gwmni bach efo calon ac uchelgais enfawr (a chartref newydd anhygoel!) a byddem wrth ein bodd clywed gen ti.

-------------

1. PENNAETH YMGYSYLLTU
Cyflog: £35,000 - £40,000
Dyddiad cau: 03 Tachwedd 2023

Dyma gyfle newydd sbon i chwarae rhan allweddol yn y modd yr ydym ni’n gweithredu, comisiynu, datblygu a chynhyrchu sioeau.

Mae’r amcan yn glir - i gydweithio hefo ni i dorri tir newydd yn y ffordd y mae theatr yn cael ei greu gan osod theatr yn y gymuned a chymuned yn y theatr.

FFURFLEN CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

Pecyn Swydd: Pennaeth Ymgysylltu

pdf, 7.997 MB

2. CYNHYRCHYDD
Cyflog: £30,000 - £35,000
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2023

Rôl newydd a chyfle unigryw i weithio mewn amgylchedd cyflym ac egnïol gan greu cynyrchiadau uchelgeisiol ar y cyd â rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru a'n pobl ifanc, a'u teithio led-led Cymru a thu hwnt.

FFURFLEN CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

Pecyn Swydd Cynhyrchydd (Cymraeg)

pdf, 5.346 MB

DYDDIADAU ALLWEDDOL

Dyddiad cau: 03 Tachwedd 2023

Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn cychwyn 13 Tachwedd

Cychwyn swydd: Mor fuan â phosib wedi’r penodiad.

-------------

Os hoffet drafod y swyddi wrth baratoi cais, cysyllta â Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen drwy nia@franwen.com.

Mae’r swyddi yma wedi eu cyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.