Baner Wefan
29.07.24

Steddfod barod am Corn Gwlad?

Rhowch eich bŵts a’ch ffrog fwyaf ‘glam’ ymlaen oherwydd mae Corn Gwlad, sioe gerdd diweddaraf Seiriol Davies, yn dod i Rondda Cynon Taf ym mis Awst.

Yn llawn canu, dawnsio disgo cwiar a fferats, mae’r sioe yn taflu goleuni ar enillydd dadleuol y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1924.

Wedi’i chyd-gynhyrchu gan Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, mae’r sioe yn ail-greu seremoni coroni’r bardd Prosser Rhys, a gafodd ei wawdio gan Archdderwydd yr Orsedd am sôn am ei berthynas â dyn yn ei gerdd fuddugol 'Atgof'.

Meddai’r ‘sgwennwr a’r cyfansoddwr Seiriol Davies: “Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl awran wyllt llawn jôcs, gwisgoedd glam a bangars gan rhai o artistiaid gorau Cymru (a fi!).

Mae’r stori yn procio’r cwestiwn annatod o bwy ydyn ni. Beth sy'n digwydd os ti’n darganfod bod yr hanes ti’n gyfarwydd ag o yn... anghywir?

Dim amharch i'r bwtîs bach gwyn ar draws aelodau'r Orsedd, ond dwi'n ddigon hyderus i ddweud... na fydd yr Orsedd byth yn edrych mor wych!
Seiriol Davies

Mae’r cymeriadau yn cynnwys Archie, yr Archdderwydd, (Lisa Angharad) sy’n brwydro i ddelio â’r bygythiad i draddodiad gan Prosser (Meilir Rhys Williams). A fydd yr Orsedd (Nia Gandhi, Carys Eleri) yn dod o hyd i gysur ac arweiniad gan y sylfaenydd Iolo Morganwg (Seiriol Davies)? Neu a fydd yr holl beth yn chwalfa llwyr?

Mae’r sioe ymlaen rhwng 6-9 Awst am 7.30pm yn Y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf. Mae mynediad am ddim i'r rhai sydd â thocynnau Eisteddfod.