Website Template
28.07.22

Rhaglen Haf/Hydref 22

Dros y 3 mis nesa byddwn yn cyflwyno cymysgedd anarferol a chyffrous o theatr byw sy’n dathlu a rhoi llwyfan i leisiau newydd. Lleisiau ifanc. Lleisiau amrywiol. Eich lleisiau chi.

Galwad

Galwad

Rydyn ni’n falch iawn i fod yn bartneriaid ar Galwad, stori sy’n cael sy’n cael ei hadrodd mewn amser real ar draws gwahanol sianeli rhwng 26 Medi a 2 Hydref.

Ein Cyfarwyddwr Artistig, Gethin Evans, sy’n cyfarwyddo’r elfen byw o’r darllediad sy’n rhan o gyfuniad beiddgar o theatr byw, digidol a drama deledu mewn amser real.

Yn unol â’n gwerthoedd, mae pobl ifanc wedi bod wrth galon yr holl broses greadigol. Maent wedi cael cyfleoedd anhygoel i gydweithio ag artistiaid o'r radd flaenaf wrth iddynt ddod at ei gilydd i ddychmygu sut y gall Cymru edrych yn y dyfodol.

Gan weithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, mae’r stori’n datblygu ar S4C, Facebook, Twitter, Instagram, YouTube a TikTok dros gyfnod o wythnos gan orffen gyda darllediad theatr fyw o Flaenau Ffestiniog ac yna drama deledu ar Sky Arts.

Pryd: 26 Medi - 2 Hyd

CAST DRAMA 2052
Matthew Aubrey, Andria Doherty, Nitin Ganatra, Boo Golding, Nadeem Islam, Rhoda Montemeyor, Jenna Preece, Alexandria Riley.

CAST BYW 2022
Aisha-Mai Hunte, Ciaran O'Breen, Gabin Kongolo, Meg Lewis, Ifan Coyle, Londiwe Mthembu, Andria Doherty, Rhodri Meilir, Mirain Fflur.

CWMNI IFANC
Alex Stallard, Anna Amalia Coviello, Barney Andrews, Beth Handley, Buddug Roberts, Deane Bean, Gwyn Daggett, Hedydd Ioan, Laurie Thomas, Paul Kaiba, Rha Arayal, Shakira Morka.

TÎM YSGRIFENNU
Megan Angharad Hunter, Emily Burnett, Katie Elin-Salt, Mathew Evans, Ciaran Fitzgerald, Greg Glover, Hanna Jarman, Jamie Jones, Steven Kavuma, Edward Lee, Catherine Linstrum, Fiona Maher, Darragh Mortell, Eric Ngalle Charles, Owen Sheers, Marvin Thompson.

Frân Wen yn yr Eisteddfod

Y Gwir Yn Erbyn Y Byd

Y Gwir yn Erbyn y Byd

Mae pedwar artist aml-gelfyddydol anhygoel wedi dod at ei gilydd i archwilio a rhannu gwaith newydd yn yr Eisteddfod eleni.

Mae’r artistiaid ifanc wedi eu hysbrydoli gan hyfforddiant a ddarparwyd gan wneuthurwyr theatr uchel eu parch, Marc Rees ac Alan Lane (Slung Lo Theatre) fel rhan o Raglen Datblygu Artistiaid ar y cyd gyda’r Eisteddfod.

Felly, os ydych chi’n Nhregaron, cadwch olwg am gloc taid arbennig a bwrdd crwn anferthol - a dewch draw am sbec!

Artistiaid: Juliette Manon Lewis, Elis Sion Pari, Rhiannon Williams, Nia Hâf.

Y Pump yn Tregaron

Y Pump

Byddwn yn dod â’r gyfres enillodd Llyfr y Flwyddyn (Gwobr Plant a Phobl Ifanc a Gwobr Barn y Bobl) yn fyw am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod.

Bydd Tim, Tami, Aniq, Rocyn a Cat yn rhannu eu fersiwn nhw o Eisteddfod Tregaron fel rhan o berfformiad gig yng Nghaffi Maes B.

Dewch i brofi wythnos yn Nhregaron yng nghwmni’r pum ffrind, gyda cherddoriaeth gan Eadyth a Lewys.

Ble a phryd: Nos Sad, 6 Awst, 7.30pm, Caffi Maes B

Actorion: Carwyn Healy, Becca Naiga, Rebecca Wilson, Beca Llwyd, Dervla Hollie Eve Whiteway

Sgwennwyr: Elgan Rhys, Tomos Jones, Mared Roberts, Ceri-Anne Gatehouse, Marged Elen Wiliam, Mahum Umer, Iestyn Tyne, Leo Drayton, Megan Angharad Hunter a Maisie Awen.

Cyfarwyddwr Prosiect: Elgan Rhys

Cyfarwyddwr Digwyddiad Byw: Gethin Evans

Partneriaid: Y Lolfa, AM, Maes B, Eisteddfod Genedlaethol

Nabod gyda Gisda

Nabod

Yn dilyn hyfforddiant gan Cardboard Citizens Theatre, bydd Nabod, ein partneriaeth newydd gyda Gisda, elusen sy’n darparu cefnogaeth a chyfleon i bobl ifanc yng Ngwynedd, yn cychwyn fis Awst gyda chyfres o sesiynau galw mewn yng Nghaernarfon, Pwllheli a Blaenau Ffestiniog.

Wedi’i ysbrydoli gan artistiaid aml-gelfyddydol a phobl ifanc mewn hybiau ar draws gogledd orllewin Cymru, byddwn yn cyd-greu darn arloesol o theatr sy’n uchafu llais yr unigolyn ac yn annog newid cymdeithasol.

Tîm Creadigol: Elis Pari, Lynwen Hughes, Sion Parry, Elgan Rhys, Ellie Stringer.

Sgratsh

Sgratch

Bydd ein digwyddiad rhannu gwaith mewn datblygiad yn dychwelyd yn Hydref 2022!

Bydd y digwyddiad byw yn gyfle i rannu datblygiad dau gynhyrchiad newydd sef Llo Llŷn ac Un o Lawer.

Mae Llo Llŷn yn ddrama gomedi am dyfu fyny wedi ei ysgrifennu gan Mared Llewelyn a ddatblygwyd fel rhan o’n Rhaglen Datblygu Artistiaid 2021. Bydd y cynhyrchiad yn teithio lleoliadau cymunedol yng Ngwanwyn 2023.

Un o Lawer yw cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Ifanc Frân Wen fydd yn cael ei lwyfannu yn Ebrill 2023.

Ble a phryd: Iau, 20 Hydref, 7.30pm, Y Shed, Felinheli (manylion tocynnau i ddilyn)