Baner CIFW
03.09.24

Recriwtio CIFW 24

Ffenest recriwtio Cwmni Ifanc 2024/25

Eisiau creu? Eisiau profiadau arbennig gyda phobl ifanc eraill?

Da' ni’n recriwtio ar gyfer blwyddyn newydd Cwmni Ifanc Frân Wen (CIFW)!

Dyma gwmni o bobl ifanc sy’n cyfarfod yn wythnosol yn Nyth, Bangor er mwyn:

  • Datblygu pob math o sgiliau theatr gyda phobl eraill

  • Adeiladu hyder mewn awyrgylch sy’n annog arbrofi

  • Rhoi'r pŵer i gymuned artistig ifanc i wireddu potensial

Mae’n gyfle i bobl ifanc ymarfer technegau perfformio, datblygu sgiliau dyfeisio a chyd-greu prosiectau theatrig gydag artistiaid a gwneuthurwyr theatr proffesiynol.

Ydi CIFW i fi?

Mae CIFW yn gwmni theatr sy’n cael ei yrru gan bobl ifanc gogledd-orllewin Cymru. Eleni da' ni’n chwilio am dri cwmni, gyda lle i 20 ym mhob cwmni.

  • CIFW 1 (bl6 - bl7) - cyflwyniad i sgiliau theatr amrywiol, gyda rhaniad anffurfiol ar ddiwedd tymor.

  • CIFW 2 (bl8 - bl10) - datblygu gwaith newydd, gan arwain at rannu darn-mewn-datblygiad yn ein digwyddiad Sgratsh.

  • CIFW 3 (bl11 - bl13 / 16-18 oed) - cyd-greu cynhyrchiad theatr gydag artistiaid proffesiynol.

Mae mwyafrif o'r sesiynau yn ffocysu ar weithio fel grŵp yn hytrach nag ar waith unigol. Mae hyn yn golygu gall y sesiynau fod yn swnllyd a phrysur ac yn cynnwys gemau, ymarferion grŵp ac ymarfer cyd-greu.

Pay Dd9
15ish20
Pay Dd6
CIFW Nanw
15ish7
DSC01208
15ish Sgwar No Text 72dpi
FRANWEN185

Un o amcanion CIFW ydi cwmpasu ystod o brofiadau a safbwyntiau. Mae o ar agor i bawb, ond efallai nad yw’n addas ar gyfer pob person ifanc ac felly rydym wedi creu'r isod a allai helpu chi i benderfynu os yw CIFW yn addas i chi.

Mi ddylai aelod CIFW…

  • Allu cyfrannu’n gyson i sesiynau sydd yn:
    • Awr a hanner (CIFW 1)

    • Dwy awr (CIFW 2 a 3)

  • Allu gweithio’n gyfforddus mewn grŵp - ac os ddim, yn gallu cyfathrebu gyda arweinwyr sesiynau am hyn.

  • Allu gweithio’n gyfforddus mewn awyrgylch sydd weithiau yn swnllyd a phrysur.

  • Allu gweithio gyda gwaith testun (e.e. sgript). Mae’n bosib i ni addasu unrhyw destun yn ôl anghenion unigolyn (e.e. testun maint mwy, testun ar bapur lliw).

  • Fod yn barod i weithio ar dechnegau theatr amrywiol mewn modd cydweithredol, gyda’r ffocws ar gydweithio gyda phobl eraill yn hytrach na gwaith unigol.

  • Allu gweithio mewn amgylchedd Cymraeg - mae croeso i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr newydd a dysgwyr.

  • Fod yn barod i weithio gyda pharch a sensitifrwydd tuag at anghenion unigolion eraill.

  • Fod gyda thân ac angerdd, ac yn barod i gyfrannu a chydweithio mewn modd beiddgar, caredig ac agored

Pryd mae CIFW yn cyfarfod?

Maent yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod tymor ysgol. Os y byddwch yn rhan o brosiect theatrig neu gynhyrchiad, mi fydd dyddiadau ychwanegol i’r sesiynau hyn.

Dyma linc i amserlen y tair cwmni ar gyfer 2024/25.

Oes rhaid talu i gymryd rhan?

Rydym yn gofyn am gyfraniad o £30 bob tymor.

Os ydych yn derbyn cinio ysgol am ddim mae ein bwrsariaeth CIFW ar gael - cysylltwch â cifw@franwen.com i dderbyn gwybodaeth pellach.

Sut mae cymryd rhan?

Eleni, byddwn yn cynnal gweithdai agored er mwyn recriwtio 20 person ifanc i bob cwmni. Bydd rhai o weithdai CIFW 2 a 3 yn digwydd mewn ysgolion uwchradd lleol - cysylltwch gyda ysgol eich plentyn i weld os oes gweithdy yn dod atyn nhw.

Ond peidiwch a phoeni os ddim, achos mi fydd gweithdai agored yma yn Nyth:

Dyddiadau

  • Dydd Sul, 15 Medi // CIFW 1 (bl.6-bl.7) - 10am - 11am

  • Dydd Sul, 15 Medi // CIFW 2 (bl8-bl10) - 12pm - 1pm

  • Dydd Sul, 15 Medi // CIFW 3 (bl11-bl13 // 16-18 oed) - 2pm - 3.30pm

Cliciwch yma i gofrestru a dethol eich amser gweithdy.

Lleoliad

Nyth, Garth Road, Bangor, LL57 2RW

Methu mynychu dyddiad gweithdy agored?

Cysylltwch gyda elgan@franwen.com i drefnu sgwrs anffurfiol am flwyddyn newydd Cwmni Ifanc Frân Wen.