Baner Elan
02.10.23

Ennill gwobr The Stage

Llongyfarchiadau Elan Davies

Llongyfarchiadau i Elan Davies am ennill gwobr Perfformiwr Gorau yn y Stage Debut Awards yn Llundain neithiwr (Sul 1 Hyd).

Enillodd am chwarae rhan Laura yn Imrie, ein cyd-gynhrychiad efo Theatr y Sherman.

Dyma’r tro cyntaf i berfformiwr mewn cynhyrchiad cyfrwng Cymraeg ennill yn y gwobrau pwysig yma.

Mae'r digwyddiad yn tynnu sylw at actorion, awduron, cyfarwyddwyr a chyfansoddwyr newydd yn y diwydiant perfformio.

Wedi ei ysgrifennu gan Nia Morais a'i gyfarwyddo gan Gethin Evans (ein Cyfarwyddwr Artistig), gyda Rebecca Wilson yn chwarae rhan Josie, roedd y cynhyrchiad Imrie ar daith o amgylch Cymru rhwng mis Mai a mis Mehefin eleni.

Fe'i berfformiwyd yn y Gymraeg gyda chapsiynau yn Saesneg a Chymraeg, ynghyd â pherfformiadau BSL.

Mewn cyfweliad â The Stage, dywedodd Elan: “Mae cael sylw mor ifanc ac ar ddechrau fy ngyrfa yn teimlo'n wych.”


Mae mor bwysig cael ein cydnabod mewn sioe wobrwyo fel hon, yn enwedig ar gyfer cynhyrchiad Cymraeg.
Elan Davies

Dywedodd golygydd The Stage, Alistair Smith: “Mae ein henillwyr gwych yn amlygu cymaint o dalent sy’n dod i’r amlwg ar draws theatrau Prydain."

Rwy’n arbennig o falch ein bod wedi llwyddo eleni i gydnabod ein henillydd cyntaf erioed mewn perfformiad Cymraeg."
Alistair Smith, Golygydd The Stage

Dywedodd y beirniaid fod y cynhyrchiad wedi dod â “hiwmor 'street-smart', tynerwch a chreulondeb i stori hudolus am ddwy chwaer yn ceisio darganfod eu hunain”.

*Llun gan Alex Brenner